British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Hydref 2010, 12:00 GMT 13:00 UK
Llwyddiant menter gymunedol yn Aberteifi

hen adeilad mudiad cydweithredol y ffermwyr
Mae'r safle wedi bod yn wag ers pum mlynedd

Mae menter gymunedol yn Aberteifi wedi llwyddo i werthu dros 1,000 o gyfranddaliadau er mwyn prynu safle yng nghanol y dref i'w ddatblygu.

Y bwriad yw prynu safle Pwllhai a chreu maes parcio am ddim ac addasu rhai o'r adeiladu yno i fod yn siopau a fydd yn gwerthu cynnyrch lleol - o bysgod Afon Teifi i gynnyrch y ffermydd lleol.

Mae £200,000 wedi cael ei godi drwy werthu'r cyfranddaliadau am £200 yr un.

Roedd gan y fenter darged o o leiaf 900 o gyfranddaliadau gan fod y dref yn 900 oed eleni.

Mae safle Pwllhai islaw Castell Aberteifi ac mae'r adeiladau yno wedi bod yn wag am o leiaf bum mlynedd.

Fe fydd y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y fenter yn cau am 5pm ar ddydd Llun, Hydref 18.

Uchelgeisiol

Mae sawl cyfarfod cyhoeddus wedi cael eu cynnal yn y dref i egluro mwy am y cynllun a nifer o'r bobl leol yn barod iawn i'w gefnogi.

"Mae 'na gynnydd munud ola wedi bod wrth i bobl brynu cyfranddaliadau," meddai Cris Tomos, trysorydd y prosiect.

"Mae'n newyddion gwych.

"Roeddem wedi gosod targed uchelgeisiol o £250,000 erbyn y 18fed gan feddwl y byddem yn fodlon iawn ar £160,000.

"Ond mae'n bosib y byddwn yn nes at y £250,000 ac yn gorfod gwrthod buddsoddwyr."

Fe fydd y buddsoddwyr yn cael tua 5% o elw.

Mae'r fenter wedi cael cefnogaeth gan Fanc LloydsTSB a fydd yn rhoi'r benthyciad iddyn nhw.



HEFYD
Menter leol yn llwyddo i gasglu arian
23 Medi 10 |  Newyddion
Hwb i gynllun adfywio canol tref
31 Awst 10 |  Newyddion
Cynllun adfywio canol tref
02 Meh 10 |  Newyddion
Pryder am ddyfodol cynllun
16 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific