Cyhoeddir canlyniadau'r arolwg o wariant ar Hydref 20.
|
De Cymru mae'n debyg fydd yn ei chael yn anoddach i ymdopi gyda thoriadau yn y sector cyhoeddus, yn ôl ymchwil newydd. Mae astudiaeth gafodd ei gomisiynu gan BBC Cymru yn awgrymu rhaniad de-gogledd, gyda'r gogledd yn gyffredinol yn fwy cadarn yn wyneb y toriadau. Mae gwahaniaethau yn y ffordd y mae siroedd sydd ond ychydig filltiroedd i ffwrdd o'i gilydd yn debygol o ymdopi, gyda Sir Fynwy a Blaenau Gwent ar frig ac ar waelod y rhestr wedi'r gwaith ymchwil i BBC Cymru. Cymoedd y de sy'n debygol o ddioddef fwya. Roedd yr ymchwil yn ystyried sut y byddai gwahanol ardaloedd yn medru ymateb i "ergydion" fel colli swyddi. Siroedd cadarn Astudiwyd cryfder y seilwaith busnes lleol; lefelau sgiliau pobl yr ardal; cyfraddau troseddu a phrisiau tai. Sir Fynwy all oroesi orau gyda Sir Blaenau Gwent ar waelod y rhestr. Daeth rhaniad de-gogledd i'r amlwg, gyda Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Ynys Môn a Sir Ddinbych ymhlith y dwsin sir mwyaf cadarn. Ymhlith y lleiaf cadarn yr oedd cymoedd Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Awgrymodd yr ymchwil fod gan Bowys a Chaerdydd seilwaith busnes cadarn, gyda Merthyr Tudful y gwaethaf yn yr adran honno. O ran "gwytnwch cymunedol", Powys a Cheredigion oedd ar y brig a Merthyr ar y gwaelod. Fe fydd Llywodraeth glymblaid San Steffan yn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg o wariant ar Hydref 20. Bydd rhaglen Spending Review: The Wales Debate i'w gweld ar BBC UN Cymru ddydd Mawrth am 22.35pm.
|