British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 10 Hydref 2010, 08:59 GMT 09:59 UK
Gwerth allforion yn gostwng

Nwyddau i'w cludo ar long
bu gostyngiad yng ngwerth allforion

Yn ôl y ffigyrau diweddara bu gostyngiad o £1.6 biliwn yng ngwerth allforion o Gymru yn y 12 mis i Fehefin eleni.

Bu gostyngiad o £480m yn yr allforion i'r Undeb Ewropeaidd neu 9%, tra bu gostyngiad o £1.1 biliwn (22.8%) i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod y ffigyrau yn siomedig ac yn tanlinellu'r her sy'n wynebu Cymru yn y maes allforio.

Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am gasglu'r ffigyrau.

Ynni, gan gynnwys glo, tanwydd, is gynyrch petroliwm a pheiriannau sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu ynni, oedd prif allforion Cymru yn 2009.

Bu gostynigad o 24.3% yng ngwerth allforion 'ynni' yn y 12 mis cyn Mehefin 2010.

Er hyn, yn y cyfnod dan sylw, roedd y sector ynni yn parhau i gynrychioli 30% o allforion Cymru.

Bu gostyngiad yn yr allforion i'r Almaen, Gwlad Belg ar Unol Daleithiau,

Yr Unol Daleithiau welodd y gostyngiad mwya sef £24 miliwn neu 15%.

Ar y llaw arall bu cynnydd o £224 miliwn yn yr allforion i'r Iseldiroedd.

Dywedodd Kath Ringwald, darlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg, fod y ffigyrau'n awgrymu fod effaith y dirwasgiad yn amrywio o wlad i wlad.

"Mae yna rai gwelydd sydd mewn sefyllfa debyg i Gymru, sef problemau dyled ac ansicrwydd gwaith.

"Yn y math yna o economi, does fawr o alw am y math o gynnyrch rydym yn ei gynnig."

Dywedodd David Phipps, ymgynghorydd masnach ryngwladol ym Mhenarth, fod Cymru yn parhau yn ddibynnol ar lond llaw o farchnadoedd allforio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Y gwir ydi, yw bod y rhan fwyaf o'm cwsmeriaid traddodiadol yn wynebu problemau eu hunain.

"Does yna ddim atebion hawdd a bydd y ffordd o'n blaenau yn un hir ac anodd. "




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific