British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Hydref 2010, 06:16 GMT 07:16 UK
Mabwysiadu: Gwasanaethau gwael

Plant (generic)
Mae 20% o deuluoedd sy'n mabwysiadu yn chwalu

Dyw plant wedi'u mabwysiadu yng Nghymru ddim yn derbyn digon o gefnogaeth, medd adroddiad newydd.

Dywed adroddiad Adoption UK fod gwasanaeth gwael ac anghyson yn golygu bod plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni mabwysiadol yn ddiangen.

Er bod nifer y plant sy'n cael eu mabwysiadu yng Nghymru ar gynnydd, mae ymchwil yn awgrymu fod hyd at 20% o'r teuluoedd hyn yn chwalu.

Mae Adoption UK yn dweud fod rhai awdurdodau lleol yn methu ymateb i anghenion plant a bod ysgolion yn diystyru eu hanghenion.

Pum mlynedd

"Bydd llawer o blant wedi'u mabwysiadu yn cario creithiau eu profiadau cynnar gyda nhw am weddill eu hoes," meddai'r adroddiad.

"Mae teuluoedd angen cefnogaeth hyd nes, neu hyd yn oed ar ôl, i'r plentyn ddod yn oedolyn."

Mae'r adroddiad yn dweud nad yw asiantaethau a phobl broffesiynol yn dysgu gwersi wrth adolygu achosion.

Mae'r adroddiad yn gwneud 12 o argymhellion gan gynnwys :-

  • Darparu hyfforddiant i holl staff proffesiynol y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ynglŷn â phlant sy'n diodde trawma ac esgeulustod yn eu blynyddoedd cynnar;
  • Ariannu llyfryn newydd i rieni i bwysleisio anghenion plant wedi'u mabwysiadu mewn ysgolion;
  • Arolygon ysgolion i ystyried y ddarpariaeth i blant mewn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu;
  • Datblygu adnoddau a gwasanaethau i ddarparu cefnogaeth gydol oes i deuluoedd gydag anghenion hir dymor.


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific