Mae'r cerflun yn y fynedfa i Plas Newydd
Cafodd cerflun newydd o Ferched Llangollen ei ddadorchuddio. Mae'r gwaith gan yr artist Katie Scarlett Howard i'w gweld y tu allan i'w cyn gartref ym Mhlas Newydd, Llangollen. Bu'r merched, Y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsoby, yn byw yno rhwng 1780 a'u marwolaeth yn 1829 a 1832. "Dwi wedi mwynhau gweithio ar y darn yma a'i arddangos mewn lle mor amlwg," meddai'r artist.
Ychydig o luniau sydd ar gael o'r ddwy yn ôl Katie Scarlett Howard
|
Eglurodd mai ychydig o luniau o'r ddwy oedd ar gael gan nad oedden nhw'n hoffi cael eu portreadu. "Yr unig ddarlun gwir o'r ddwy oedd un gafodd ei wneud yn y dirgel gan ymwelydd," meddai. Cafodd y ddwy eu hadnabod fel Merched Llangollen ar ôl dianc oddi wrth eu teuluoedd aristocrataidd a sefydlu eu cartref yn Llangollen. Wedi penderfynu ar Plas Newydd aeth y ddwy ati i'w drawsnewid gan gynnwys cynnwys nodweddion gothig. Bu nifer o enwogion yn galw i'w gweld, gan gynnwys William Wordsworth a Dug Wellington. Mae'r cerfluniau yn rhan o gyfres gan yr artist o ferched. Eisoes mae cerfluniau i Laura Ashley, Beatrix Potter ac Angharad Tomos wedi cael eu dadorchuddio ganddi.
|