British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Hydref 2010, 06:41 GMT 07:41 UK
Angladd milwr Afghanistan

Sargant  Andrew James Jones
Bu farw Sarjant Jones wedi i fom ffrwydro

Mae angladd milwr o Gasnewydd gafodd ei ladd tra ar batrôl yn Afghanistan wedi cael ei gynnal.

Roedd Sarjant Andrew Jones, 35 oed, yn briod gyda thri o blant.

Roedd yr angladd yn Eglwys Gadeiriol Sant Woolos, Casnewydd, ddydd Gwener.

Mewn teyrnged dywedodd ei wraig Joanne: "Ni chawsom y cyfle i ddweud hwyl fawr, ond fe fyddi di o hyd yn ein meddyliau.

"Rwyt wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau, a ni all dim cymryd dy le."

Roedd Sarjant Jones yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Lliswerry cyn ymuno â'r fyddin.

Cafodd y Sarjant Jones, o'r Peirianwyr Brenhinol, ei ladd tra ar batrôl yn Lashkar Gah yn nhalaith Helmand.

Wedi'r newyddion dywedodd yr Is-gapten Martin Todd fod Sarjant Jones yn "Gymro balch".

"Roedd ei ddewrder a'i natur addfwyn fel arweinydd yn codi ysbryd y milwyr o'i gwmpas, yn enwedig ar adegau anodd.

"Roedd e'n brawf o'n cyfeillgarwch ni, pan wnaeth Lloegr faeddu Cymru mewn gêm rygbi.

"Fe wnaeth e bwdu am tua phum eiliad cyn mynd i brynu diod i bawb."



HEFYD
Milwr: Teyrnged Teulu
21 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific