British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Hydref 2010, 09:43 GMT 10:43 UK
35,000 o swyddi i'r Cyfrifiad

Ffurflen y Cyfrifiad
Bydd Cyfrifiad 2011 yn digwydd ar Fawrth 27.

Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn chwilio am 35,000 o weithwyr ar draws Cymru a Lloegr, ond swyddi tymor byr fydd y rhain.

Daw'r swyddi oherwydd y cyfrifiad fydd yn digwydd ar Fawrth 27 y flwyddyn nesa.

Bydd ystod eang o swyddi llawn amser a rhan amser yn cael eu hysbysebu, a dywed y Swyddfa y bydd cyfleoedd am waith o fewn cymunedau lleol.

Ymhlith y swyddi fydd ar gael bydd cydlynwyr cyfrifiad a fydd yn rheoli timau lleol, casglwyr cyfrifiad i gynnig cymorth a chefnogaeth ar stepen y drws a rhestrwyr arbennig a fydd yn gyfrifol am sefydliadau cymunedol megis cartrefi preswyl a neuaddau preswyl myfyrwyr er enghraifft.

Cymorth pwysig

Bydd y gweithwyr yn trafod gydag ystod eang o bobl a sefydliadau gan gynnig cymorth pwysig i sicrhau y gall pawb yn eu hardal ddychwelyd eu ffurflenni cyfrifiad.

Cyfarwyddwr Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw Glen Watson.

"Rydw i'n falch o gyhoeddi dechrau ein hymgyrch i recriwtio 35,000 o bobl ar gyfer Cyfrifiad 2011," meddai.

"Nid mater o gyfri pobl yn unig yw'r Cyfrifiad - mae'r wybodaeth ddaw ohono yn angenrheidiol er mwy gwneud gwaith cynllunio gwasanaethau hanfodol fel ysgolion, ysbytai, cartrefi, ffyrdd a gwasanaethau brys.

"Bydd y Cyfrifiad yn digwydd o fewn chwe mis.

"Rhaid i ni roi'r cymorth a'r gefnogaeth i gwblhau'r ffurflen a'i ddychwelyd, ac mae hyn yn golygu recriwtio'r bobl iawn ar gyfer y cynllun cenedlaethol pwysig yma."



HEFYD
Sir i roi prawf ar gyfrifiad 2011
18 Medi 09 |  Newyddion
Blwch i'r Cymry yn y Cyfrifiad
11 Rhag 08 |  Newyddion
Manylion cyfrifiad 1911 ar gael
25 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific