British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Hydref 2010, 11:29 GMT 12:29 UK
Prif Weinidogion tair gwlad yn erbyn toriadau

Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson
Mae'r datganiad wedi ei arwyddo gan Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson

Mae Prif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi arwyddo datganiad sy'n gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain i ddelio â'u trafferthion ariannol.

Mae Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones yn ogystal ag arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi arwyddo'r datganiad.

Mae'n annog y Llywodraeth i wneud llai o arbedion dros gyfnod hirach er mwyn ceisio osgoi rhagor o broblemau economaidd yn yr hir dymor.

Ond dywedodd David Cameron y byddai'r ymateb yna yn gwaethygu'r problemau.

Yn ei araith ddydd Mercher yng nghynhadledd ei blaid yn Birmingham, dywedodd Mr Cameron mai'r blaid Lafur yn unig oedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau i gwtogi gwariant.

Ond mae'r pleidiau sy'n rheoli'r gwledydd datganoledig - sy'n cynnwys Llafur, Plaid Cymru, yr SNP, Sinn Fein a'r DUP - yn gwrthwynebu gan ddweud bod gwneud y toriadau dros y ddwy flynedd nesaf "yr ateb anghywir" i adfer yr economi.

'Cyfrifol'

Wrth bwysleisio bod Llafur wedi benthyca cymaint dywedodd Mr Cameron y byddai'n braf "petai dim rhaid gwneud hyn neu fod yna ateb haws ar gael".

"Ond does 'na ddim ffordd gyfrifol arall."

Bwriad Llywodraeth y Cynulliad yw gwneud toriadau o biliynau mewn gwariant cyhoeddus ar draws y DU.

Mae'r datganiad gan y tair gwlad ddatganoledig yn dweud y gallai'r toriadau gael "effaith hir dymor negyddol ar yr economi a swyddi pobl".

"Dim ond pan mae 'na dystiolaeth glir bod yr economi yn ffynnu ac wedi ei sefydlogi y gallwn ni gyflwyno toriadau," medd y llythyr.

"Mae cyflwyno'r toriadau dros y ddwy flynedd nesaf yn gwbl anghywir i'r economi a gwasanaethau allweddol y mae cymaint o bobl yn ddibynnol arnyn nhw.

"Rydym yn annog bod y toriadau yn cael eu lleihau a'u cyflwyno dros gyfnod mwy o amser.

"Oni bai y bydd hyn yn cael ei wneud fe fydd 'na fygythiad o effeithio ar yr economi yn y tymor hir."

'Digynsail'

Dywedodd Carwyn Jones: "Rydym wedi cymryd y cam digynsail yma am ein bod yn teimlo fod maint a chyflymder y toriadau y cawsom ein harwain i ddisgwyl yn mynd i gael canlyniadau dinistriol ar y bobl mwyaf bregus yn y gwledydd datganoledig, ac fe fyddwn yn teimlo'r effaith am genhedloedd i ddod.

"Mae ein datganiad ar y cyd yn dangos cryfder y teimlad o fewn y llywodraethau datganoledig sy'n cynrychioli bron 10 miliwn o bobl, neu un o bob chwech o boblogaeth y DU."

Ychwanegodd Ieuan Wyn Jones: "Rydym wedi rhybuddio'n gyson y bydd cynlluniau gwario llywodraeth Prydain yn peryglu'r adfywiad economaidd.

"Rydym yn credu bod y toriadau yn rhy gyflym a rhy ddwfn.

"Hybu twf economaidd yw'r allwedd i adfer iechyd ein cyllid cyhoeddus."

'Dewr, pwysig a doeth'

Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd ffynhonell o lywodraeth San Steffan: "Mae Swyddfa annibynnol Y Gyllideb yn darogan y bydd twf cynaliadwy o ganlyniad i'n cynlluniau, a neithiwr fe wnaeth Llywydd Banc Y Byd eu canmol fel rhai dewr, pwysig a doeth."

Fe fydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi'r manylion ar Hydref 20.



HEFYD
Cameron: 'Cyfnod anodd'
04 Hyd 10 |  Newyddion
Barroso yn canmol Cymru
03 Hyd 10 |  Newyddion
'Buddsoddwch yn lle torri'
27 Medi 10 |  Newyddion
Clegg: 'Newid Prydain am byth'
20 Medi 10 |  Newyddion
Paratoi ar gyfer toriadau
13 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific