British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Hydref 2010, 06:30 GMT 07:30 UK
Newid hinsawdd: Lansio strategaeth

fferm wynt
Mae'r cynllun yn galw am leihad o 40% yn nwyon tŷ gwydr

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn amlinellu ei chynlluniau i fynd i'r afael â newid hinsawdd a chyrraedd y nod o leihau nwyon tŷ gwydr o 3% o flwyddyn i flwyddyn.

Mae disgwyl i'r strategaeth roi sylw i'r angen i leihau allyriadau carbon.

Bydd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, a'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â Chanolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth er mwyn lansio'r strategaeth.

Mae'r cynllun yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau lleihad o 40% mewn nwyon tŷ gwydr rhwng 1990 a 2020.

'Arweiniad'

"Mae'r strategaeth yn rhoi manylion llawn am y modd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyrraedd y nod o leihau allyriadau tŷ gwydr a hefyd sut y byddwn yn ymdopi â newid hinsawdd," meddai Ms Davidson.

"Rydym yn gwybod bod yn rhaid i lywodraeth roi arweiniad ond mae'r strategaeth hefyd yn cydnabod fod gan bobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru rhan hanfodol i chwarae. "

Dywedodd Steve Howard, ffigwr amlwg yn y maes newid hinsawdd, fod Cymru yn arwain y ffordd.

"Mae'r strategaeth yn dangos fod yna uchelgais i fynd i'r afael ag allyriadau.



HEFYD
Ynni: 'Chwyldro carbon isel'
15 Maw 10 |  Newyddion
24m i hybu diwydiant morol
08 Medi 10 |  Newyddion
Cwestiynau cynaliadwyedd
06 Hyd 10 |  Cymru

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific