British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Hydref 2010, 07:46 GMT 08:46 UK
'Angen gwahardd ysmygu mewn ceir'

Ysmygu mewn car
Dywed y Prif Swyddog Meddygol fod angen gwahardd ysmygu mewn ceir preifat

Dylai plant Cymru gael eu hamddiffyn rhag fwg ail-law mewn cartrefi a cheir yn ol Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Dywed Dr Tony Jewell y dylid ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i geir preifat, a dylid annog teuluoedd i gael polisi di-fwg yn eu cartrefi.

Mae nifer y marwolaethau sy'n deillio o ysmygu yng Nghymru yn dal yn rhy uchel ar 5,650 yn flynyddol, medd Dr Jewell.

'Annheg'

Cyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ym mis Ebrill 2007.

Yn ei adroddiad blynyddol, dywed Dr Jewell bod ysmygu yn costio tua £386 miliwn y flwyddyn, sy'n cyfateb i £129 i bob person neu 7% o'r gwariant ar iechyd.

Meddai Dr Jewell: "Mae'n annheg mai plant sy'n diodde oherwydd arferion pobl eraill.

"Mae pobl yn gwybod am beryglon ysmygu, ond yn dewis anwybyddu'r ffeithiau."



HEFYD
Sgyrsiau tadol yn 'atal ysmygu'
15 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific