British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Hydref 2010, 12:00 GMT 13:00 UK
Galw am beidio 'gwario'n anghyfrifol'

Sain Tathan
Byddai hyfforddi'r holl luoedd arfog yn digwydd yn Sain Tathan o dan y cynllun gwreiddiol.

Mae Cyngor Undeb yr Annibynwyr yn galw ar lywodraeth gwledydd Prydain i ddileu cynlluniau sy'n golygu gwario 'anghyfrifol ar arfau rhyfel'.

Yn eu cyfarfod yng Ngregynog dros y penwythnos, galwodd y cynrychiolwyr ar arweinwyr y glymblaid i wynebu realiti'r wasgfa economaidd a thorri'n ôl ar wariant 'diangen'.

Y teimlad unfrydol ymhlith aelodau'r Cyngor oedd na ellid cyfiawnhau gwario ar dri chynllun penodol sydd â'u dyfodol dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

Tri phen

Y cyntaf yw'r Academi Filwrol yn Sain Tathan, a fyddai'n golygu gwario £14 biliwn ar hyfforddi milwyr ar ddulliau rhyfel.

Yr ail ystyriaeth yw dyfodol Trident, a allai gostio rhwng £20 biliwn a £75 biliwn.

Yn drydydd mae'r datblygiadau ym maes awyrennau di-beilot yn Aberporth, sy'n rhan o gynllun gwerth £900 miliwn.

'Sail moesol'

Dywedodd Elenid Jones, Cadeirydd yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol: "Yn y bôn, ar sail foesol yr ydym ni fel Adran yn gwrthwynebu'r datblygiadau hyn.

"Hyd yn oed pe ba'r cyllid ar gael i ariannu'r gwahanol brosiectau, byddem ni fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn lleisio ein gwrthwynebiad i arfau mor echrydus o ddinistriol i'r ddynoliaeth gyfan, ond yn y dyddiau anodd presennol mae'r gwastraff yn amlwg i bawb."

Bydd y Cyngor yn pwyso ar aelodau eglwysi Undeb yr Annibynwyr ledled Cymru i ysgrifennu at eu haelodau seneddol a'u haelodau Cynulliad i bwyso arnyn nhw i beidio buddsoddi rhagor yn y cynlluniau hyn.



HEFYD
Amheuaeth o'r newydd am ganolfan
22 Medi 10 |  Newyddion
£29m o waith ar academi filwrol
11 Ion 10 |  Newyddion
Israel: Profi awyren yng Nghymru
17 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific