British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Hydref 2010, 11:42 GMT 12:42 UK
Merch saith oed wedi boddi mewn parc gwyliau

Parc Carafanau Talacre Beach
Roedd teulu'r ferch yn aros yn y parc gwyliau

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw merch saith oed foddodd mewn parc gwyliau.

Aeth y ferch fach i drafferthion ym mhwll nofio Parc Gwyliau Traeth Talacre yn Ffordd Yr Orsaf, Talacre, Sir Fflint.

Aed â hi i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond cyhoeddwyd ei bod wedi marw am 5.58pm brynhawn Sadwrn.

Y ferch oedd Seojin Kim o Birmingham ac fe gafodd cwest ei agor a'i ohirio.

Wyth munud

Adroddiad Gethin Morris Williams o Newyddion nos Sul.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod y ferch fach wedi ei chanfod ar waelod y pwll nofio, ond wedi ei thynnu o'r dŵr erbyn iddyn nhw gyrraedd.

Cyrhaeddodd ambiwlans y parc gwyliau o fewn wyth munud i dderbyn yr alwad frys am 3.40pm brynhawn Sadwrn.

Fe geisiodd parafeddygon adfywio'r ferch ar y safle ac ar y ffordd i'r ysbyty.

'Cyfnod anodd'

James McAllister yw dirprwy gyfarwyddwr y parc gwyliau.

"Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu'r ferch fach a fu farw yn y drasiedi ddoe.

"Yn y cyfnod anodd iawn yma, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r awdurdodau gyda'u hymchwiliad i'r ddamwain ofnadwy yma."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific