British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Hydref 2010, 10:10 GMT 11:10 UK
Galw am arddangos hylendid bwyd

Caffi
Bydd mesur yn cael ei roi ar fusnesau sy'n gweini, gwerthu neu baratoi bwyd.

Mae ymgyrchwyr diogelwch bwyd yn mynnu y dylai fod yn orfodol i fusnesau arddangos eu gwerthoedd hylendid fel rhan o gynllun newydd.

O ddechrau mis Hydref, bydd archwiliadau cyson gan gynghorau o fusnesau sy'n gweini, gwerthu neu baratoi bwyd yn cael eu defnyddio i osod Mesur Hylendid Bwyd o rhwng 0 a 5 ar y busnes.

Byddai mesur o 0 yn golygu bod angen gwelliant brys, tra bod mesur o 5 yn golygu fod gan y busnes safonau hylendid bwyd ardderchog.

Bydd y cyhoedd yn medru gweld y mesurau ar fas data sy'n cael ei oruchwilio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ond tra y bydd busnesau'n caeleu hannog i arddangos eu mesur, fydd hynny ddim yn orfodol.

26%

Dywedodd Maria Battle, cyfarwyddwr gyda Llais Defnyddwyr Cymru, ei bod yn croesawu egwyddor y cynllun, ond yn credu nad yw'n ddigonol.

"Rydym yn gwybod o'r cynllun peilot lle mae arddangos y mesur yn wirfoddol, " meddai, "mai dim ond 26% o fusnesau sy'n eu harddangos mewn gwirionedd.

"Ac os yw'r mesur yn isel - o dan 3 er engraifft - yna mae'n eithriadol o brin y bydd y mesur i'w weld. A dyna'r busnesau fyddai pobl yn dewis peidio'u defnyddio.

"Fe arweiniodd cynllun o arddangos gorfodol yn Los Angeles i ostyngiad o 20% mewn salwch yn ymwneud a bwyd, a hynny'n syth bin.

"Fe arbedodd hynny canoedd o filoedd o bunnau a llawer o ddioddefaint."

Ffyddiog

Rydym yn gwybod o'r cynllun peilot lle mae arddangos y mesur yn wirfoddol mai dim ond 26% o fusnesau sy'n eu harddangos mewn gwirionedd
Maria Battle

Llais Defnyddwyr Cymru

Roedd Ms Battle yn siarad gyda rhaglen BBC Radio Wales, 'Eye On Wales'.

Gan fod bob awdurdod lleol yng Nghymru - 22 ohonyn nhw - wedi ymuno gyda'r cynllun, mae Llais Defnyddwyr Cymru yn lobio aelodau'r Cynulliad i ofyn am yr hawl gan San Steffan i'w gwneud hi'n orfodol i fusnesau Cymreig arddangos eu Mesur Hylendid Bwyd.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cydlynu'r cynllun drwy Gymru a Lloegr, yn ffyddiog y bydd y cynllun gwirfoddol yn ddigon gan y bydd cwsmeriaid yn gwneud eu penderfyniad eu hunain os na fydd busnes yn arddangos ei fesur.

Dywedodd cyfarwyddwr yr Asiantaeth yng Nghymru, Steve Wearne: "Fe fydd y cynllun yn cynnig gwelliant mewn hylendid bwyd i fusnesau, ac yn amddiffyn y cwsmer yn well.

"Rydym yn credu y bydd grym y cwsmer yn golygu y bydd arddangos gwirfoddol yn gweithio, ond fe fyddwn ni'n adolygu hynny.

"Fe fyddai arddangos gorfodol angen newid yn y ddeddf."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific