British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Hydref 2010, 11:38 GMT 12:38 UK
Pwerdy: 'Gwrthod galw cais i mewn'

Gorsaf bwer Doc Penfro
Llun artist o orsaf bwer Doc Penfro sydd i fod i gael ei hadeiladu erbyn 2012

Dywed Llwyodraeth Y Cynulliad na fyddan nhw 'galw i mewn' gais am drwydded amgylcheddol ar gyfer Gorsaf Bwer Penfro.

Mae Llywodaeth San Steffan wedi rhoi caniatad i godi'r orsaf, ond roedd mudiad amgylcheddol Cyfeillion Y Ddaear wedi cwyno am y penderfyniad i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Roedd y mudiad yn honni fod y caniatad wedi ei roi heb gynnal asesiad amgylcheddol llawn.

'Ystyried yn ofalus'

Wrth gadarnhau na fydd Llywodraeth Y Cynulliad yn ymyrryd yn y mater dywedodd llefarydd:

"Mae'r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, wedi ystyried yr holl faterion yn ofalus iawn.

"Mae hi wedi ysgrifennu at Gyfeillion Y Ddaear i egluro nad yw'n ystyried y dylid galw i mewn y cais am drwydded i Orsaf Bwer Sir Benfro ar hyn o bryd.

"Mae'n credu bod Asiantaeth Yr Amgylchedd yn gweithredu'r dull cywir o ystyried cais RWE npower."

Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion Y Ddaear Cymru, Gordon James, "nad oedd yn synnu" at benderfyniad y gweinidog.

Ychwanegodd ei fod yn fwy gobeithiol y bydd y gwyn a roddwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei chadarnhau.

"Ond," meddai Mr James, "gall hynny gymeryd dwy neu dair blynedd, ac fe fydd yr orsaf bwer wedi ei chodi erbyn hynny."



HEFYD
Her Ewropeaidd i orsaf bwer
18 Meh 10 |  Newyddion
Gorsaf bwer: Protest swyddi
19 Maw 10 |  Newyddion
Pwerdy newydd: 2,000 o swyddi?
05 Chwef 09 |  Newyddion
Cytundeb i godi gorsaf bwer
27 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific