British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Hydref 2010, 18:05 GMT 19:05 UK
Pwll nofio i gau wedi'r cwbl?

Protest Pwll Nofio Harlech
Bu trigolion lleol yn brwydro ers tair blynedd i gadw'r pwll ar agor

Mae'n ymddangos y bydd pwll nofio Harlech yn cau wedi'r cwbwl er gwaeth ymgyrch dair blynedd gan drigolion lleol i'w gadw ar agor.

Ym mis Gorffennaf, fe glywodd y grwp Hamdden Harlech ac Ardudwy eu bod wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am £500,000 o Gronfa'r Loteri Fawr tuag at y gost o adnewyddu'r pwll.

Roedd hynny'n ddibynnol ar sicrhau £300,000 o Raglen Weithgaredd ac Adnoddau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad i dalu'r gweddill.

Ddydd Gwener, clywodd y grwp na fyddai'r arian yna yn dod o Fae Caerdydd.

Ymgyrch

Bu dyfodol y pwll yn y fantol ers 2007 pan ddywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn bwriadu ei gau.

Cafwyd ymgyrch gan bobl leol i'w achub, ac yng Ngorffennaf 2009 fe gytunodd yr awdurdod i drosglwyddo'r pwll i sefydliad cymunedol.

Dywedodd Richard Holland ,yn aelod o'r pwyllgor llywio fu'n gyfrifol am drosglwyddo gofal o'r pwll i'r grwp cymunedol, fod y newyddion yn "siom fawr i'r gymuned."

"Bu'n frwydr hir ers 2007, ac roedd y pwll i fod i ailagor ar Dachwedd 1 - mae'n ymddangos nawr fel na fydd hynny'n digwydd o gwbl.

'Dim cysylltiad'

Pwll nofio
Y bwriad oedd codi wal ddringo a chaffi newydd yn yr adeilad

"Mae'n biti garw ar ol tair blynedd o waith caled i'w gadw ar agor.

"Does neb o Lywodraeth Y Cynulliad wedi bod yn cadw cysylltiad gyda ni i drafod ein cais, ac i gael mwy o fanylion am yr hyn sy'n digwydd yma.

"Does gennym ddim syniad felly pam na chafodd ein cais ei gymeradwyo."

Ddydd Gwener y cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, fanylion y grantiau diweddara o'r Rhaglen Weithgaredd ac Adnoddau Cymunedol.

Doedd dim manylion ar y ddogfen fod arian wedi mynd at unrhyw awdurdod lleol yng ngogledd Cymru.

'Swm terfynol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Y Cynulliad:

"Mae swm terfynol o arian ar gael ar gyfer cynlluniau o'r fath.

"Mae rheini na chafodd arian y tro hwn wedi cael llythyr yn amlinellu'r rhesymau, ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud cais o'r newydd.

"Bydd ein swyddogion yn cysylltu â nifer o ymgeiswyr sydd wedi derbyn arian amodol gan gyrff eraill, gan gynnwys Pwll Nofio Harlech, ac nid yw'n briodol i ni wneud sylw pellach ar y mater.

"Mae grantiau o'r Rhaglen Weithgaredd ac Adnoddau Cymunedol yn cael eu dosbarthu ddwywaith y flwyddyn, ac ym mis Chwefror fe rannodd naw grwp cymunedol yng Ngwynedd gyfanswm o bron £1.4 miliwn."



HEFYD
£4 miliwn i gymunedau Cymru
01 Hyd 10 |  Newyddion
Dyfodol newydd i bwll nofio
09 Gorff 10 |  Newyddion
Pwll nofio: Buddugoliaeth
14 Gorff 09 |  Newyddion
Pwll nofio: Cyflwyno deiseb
23 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific