British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Hydref 2010, 07:18 GMT 08:18 UK
Plaid yn ad-ennill sedd

Paul Thomas
Cafodd Paul Thomas 338 pleidlais

Mae Plaid Cymru wedi ennill un o'r seddi ar Gyngor Gwynedd oedd yn eiddo i Lais Gwynedd.

Cafodd Paul Thomas ei ethol i gynrychioli ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog ar ôl derbyn 338 pleidlais.

Cafodd ymgeisydd Llais Gwynedd, Donna Morgan, 246 pleidlais.

Cafodd yr is-etholiad ei gynnal ar ôl ymddiswyddiad cynghorydd Llais Gwynedd, Dafydd Lloyd Hughes, yn ystod yr haf.

Paul Thomas yw prif ganwr y grŵp poblogaidd, Gwibdaith Hen Fran.

'Ffyniant economaidd'

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae gen i gariad mawr at fy ardal enedigol, ac rwy'n awyddus iawn i gydweithio â sefydliadau a chwmnïau er mwyn denu gwaith a ffyniant economaidd i'r ardal.

"Fel rhan o'm gwaith fel Cadeirydd Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog, mae gen i syniadau a phrosiectau sydd eisoes ar y gweill ac angen buddsoddiad a datblygiad pellach.

"O ddringo'r ysgol a chyrraedd y Cyngor Sir, rydw i'n llawn gobaith y gallaf ddatblygu'r gwaith ymhellach er lles y trigolion lleol".

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Llais Gwynedd lwyddo i ddal ei gafael ar un o'i seddi ar Gyngor Gwynedd.

Blwch Pleidleisio
Cafodd Llais Gwynedd ei sefydlu yn bennaf i wrthwynebu cynlluniau cau ysgolion

Pedair pleidlais yn unig oedd rhwng Richard Lloyd Jones a Paul Thomas o Blaid Cymru yn ward Diffwys a Maenofferen.

Cafodd yr etholiad hwnnw ei gynnal oherwydd ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Gwilym Euros Roberts.

Cafodd Llais Gwynedd ei sefydlu yn bennaf i wrthwynebu cynlluniau cau ysgolion Cyngor Gwynedd.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar l cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


HEFYD
Llais Gwynedd yn cadw sedd
16 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific