British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Medi 2010, 14:31 GMT 15:31 UK
Afghanistan: Lladd anghyfreithlon

James Prosser
Roedd James Prosser yn 21 oed

Mae cwest wedi clywed bod milwr o Gymru oedd yn gyrru cerbyd arfog wedi cael ei ladd yn Afghanistan ar ôl i fom ffrwydro ar ochr y ffordd.

Roedd y Preifat James Prosser, 21 oed o Gwmbrân, ar batrôl yng ngogledd Helmand ym mis Medi'r llynedd.

Cafodd ei gerbyd 36 tunnell ei chwythu ddwy droedfedd i'r awyr.

Cofnododd Crwner Gwent David Bowen fod y milwr wedi ei ladd yn anghyfreithlon.

Clywodd y cwest yng Nghasnewydd fod y Taliban yn defnyddio bomiau mawr yn erbyn cerbydau arfog.

Roedd y milwr o Gatrawd y Cymru Brenhinol mewn cyrch yn erbyn canolfannau lle oedd y Taliban i fod i gynhyrchu bomiau.

Roedd tîm o filwyr wedi archwilio'r safle am fomiau ychydig cyn y ffrwydrad.

Anodd

Gan nad oedd y Taliban yn defnyddio llawer o fetel wrth wneud bomiau, roedd yn anodd dod o hyd iddyn nhw.

Fe gafodd y milwr anafiadau difrifol i'w ben cyn marw.

Dywedodd y Corporal Neil Collins wrth y cwest: "Ar ôl y ffrwydrad roedd y cerbyd yn llawn llwch.

"Doedd dim modd gweld y tu allan am tua 10 munud, tan i'r llwch glirio."

Wedyn, meddai, roedd yn amlwg bod y milwr yn anymwybodol ac wedi ei anafu'n ddifrifol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific