Fe allai'r gost o atgyweirio'r holl ysgolion gyrraedd £1 biliwn
Mae cannoedd o adeiladau ysgolion mewn cyflwr gwael neu mewn perygl o fethu â chyrraedd y safon angenrheidiol, yn ôl arolygon cynghorau sydd wedi dod i law BBC Cymru. Fe gafwyd manylion 16 o awdurdodau lleol oedd yn dangos bod "problemau mawr" yn nhraean ysgolion cynradd a hanner ysgolion uwchradd. Ym Merthyr Tudful a Sir Benfro roedd "gwendidau mawr" ymhob adeilad ysgol uwchradd tra bod 50% o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion angen "atgyweirio sylweddol". Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod wedi ymroi i ddarparu ysgolion addas ar gyfer y ganrif hon ac yn benderfynol o wneud hynny. 'Esgeulustod' Dywedodd Iwan Guy o Undeb y Prifathrawon, yr NAHT : "Mae ysgolion Cymru ar eu colled oherwydd blynyddoedd o esgeulustod." Llywodraeth y Cynulliad gomisiynodd yr arolygon wrth i gynghorau lunio eu cynlluniau ar gyfer gwella ysgolion. Ym mis Rhagfyr bydd cynghorau sir yn gwneud cais i'r llywodraeth am arian ac mae disgwyl i'r cyfanswm gyrraedd £3 biliwn. Fe geisiodd BBC Cymru gael gwybodaeth am gostau atgyweirio ysgolion ac anfonodd 12 o gynghorau sir eu manylion. O'r ffigyrau ddaeth i law Abertawe sy'n gorfod talu'r bil mwya, £147m, ac roedd Ysgol Gynradd Trefansel yn y ddinas angen atgyweirio gwerth £7m. £517m Gan fod y bil ar gyfer y cynghorau wnaeth roi manylion yn cyrraedd £517m, yr amcangyfri ar gyfer gwaith atgyweirio ysgolion yr holl gynghorau yng Nghymru yw £1 biliwn. Yn y dyfodol mae'n debyg y bydd cynghorau angen £3 biliwn ar gyfer prosiectau adeiladau ysgolion, gan gynnwys arian ar gyfer codi ysgolion newydd. Ond mae Chris Llewelyn o'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud na fydd digon o arian ar gael. "Fe fydd buddsoddi cyfalaf 50% yn llai na'r disgwyl ac, yn anochel, fe fydd cynghorau'n cael eu siomi. "Os na fydd ysgolion yn cael eu codi neu eu hatgyweirio, fe fydd mwy o bwysau ar y gyllideb cynnal a chadw ..." £700m Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad: "Ers 18 mis rydyn ni wedi penderfynu y bydd £700m yn cael eu gwario ar brosiectau ysgolion yng Nghymru. "Fe fydd hyn yn golygu y bydd awdurdodau'n gallu adeiladu a gwella ysgolion. "Dim ond darlun ar y pryd yw'r wybodaeth am atgyweirio a chynnal a chadw. Nid yw'n cymryd i ystyriaeth yr angen i gael gwared ar leoedd gwag - a buddsoddi mewn ysgolion newydd neu brosiectau adnewyddu."
|