Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod cryn dipyn o gefnogaeth wedi bod yn lleol i'r cerflun
|
Mae cyngor wedi rhoi sêl bendith i gynllun i godi cerflun fel cofeb i'r anturiaethwr H.M. Stanley yn ei dref enedigol, er gwaethaf deiseb yn gwrthwynebu. Eisoes mae'r cerflun efydd £31,000 wedi ei gomisiynu, gyda'r arian yn dod gan Gyngor Sir Ddinbych, Cynghorau Tref Dinbych a Llanelwy ac eraill. Pleidleisiodd cynghorwyr Sir Ddinbych o 13 i 3 gyda dau gynghorydd yn ymatal. Bydd y cerflun yn cael ei osod y tu allan i lyfrgell tref Dinbych. Fe wnaeth dros 50 o academyddion, awduron a ffigyrau amlwg eraill arwyddo llythyr yn gwrthwynebu. 'Troseddau' Yn eu tyb nhw, roedd Stanley yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, ac o gynorthwyo coloneiddio a chaethwasiaeth yn Affrica. Cafodd John Rowlands ei eni yn 1841 ac yn fachgen ifanc cafodd ei anfon i'r wyrcws yn Llanelwy cyn ymfudo i America lle newidiodd ei enw i H.M. Stanley. Bu'n ymladd yn rhyfel cartre America ac yna yn newyddiadurwr cyn mynd yn anturiaethwr. Caiff Stanley ei gofio am ganfod yr anturiaethwr coll David Livingstone yn nwyrain Affrica yn 1871. Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu cofeb yn awgrymu y gallai arddangosfa barhaol gynnig cyd-destun hanesyddol llawnach i'w hanes. Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod cryn dipyn o gefnogaeth wedi bod yn lleol i'r cerflun. Selwyn Williams darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi llunio'n llythyr o wrthwynebiad gafodd ei anfon i'r cyngor sir. Yn ei lythyr mae Mr Williams yn honni fod Henry Morton Stanley yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth. 'Anrhydeddu' Dywed y llythyr: "Rydym yn galw ar bobl Dinbych i beidio codi cerflun i 'anrhydeddu' yr imperialydd HM Stanley. "Byddai cerflun yn cyfleu cymeradwyaeth a dathliad o bob agwedd o fywyd Stanley - rhywbeth amhosib i ffigwr mor ddadleuol heddiw. "Mae'n gamgymeriad rhamanteiddio anturiaethau Affricanaidd imperialwyr o oes Fictoria. "Arweiniodd syniadau hiliol y dydd at filoedd o bobl Affrica'n cael eu lladd neu eu cam-drin, gyda phobl Ewrop yn credu bod eu rhagoriaeth yn rhoi rhwydd hynt iddyn nhw gipio tir gan ecsbloetio brodorion ac adnoddau." Mae'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr yn cynnwys yr awdur Jan Morris, a'r bardd a Benjamin Zephaniah. 'Safon ac ystod' Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn croesawu bob barn, ond fod holiadur a gyhoeddwyd fel rhan o ymgynghoriad wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn. "Roedd y canlyniadau'n cadarnhau fod trigolion lleol am weld cofeb i HM Stanley yn Ninbych ac yn Llanelwy."
|