British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Medi 2010, 15:51 GMT 16:51 UK
Cynllun darlledu 'yn anaddas'

Dynes yn gwylio'r teledu.
Gweinidog: Daearyddiaeth yn golygu y byddai'r cynllun yn anodd

Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi dweud nad yw'n credu bod cynlluniau Llywodraeth San Steffan ar gyfer darlledu lleol yn addas i Gymru.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan argymhellion panel o arbenigwyr.

Mae'r panel wedi dweud y byddai teledu lleol yn gweithio mewn ardaloedd dinesig ond na fyddai'n opsiwn ar gyfer ardaloedd llai poblog.

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi cwrdd ag aelodau'r panel ac wedi ei gwneud hi'n glir fod daearyddiaeth Cymru yn golygu y byddai cynllun o'r fath yn anodd iawn.

Rhoi'r gorau

"Dyw hyn ddim yn addas ar gyfer y sefyllfa yng Nghymru o ran newyddion a rhaglenni 'rhanbarthol'," meddai.

Ym mis Mehefin cyhoeddodd Mr Hunt ei fod yn rhoi'r gorau i gynllun peilot teledu oedd i fod i ddarparu newyddion ar sianel ITV Cymru.

Dywedodd y byddai gwario arian cyhoeddus prin ar wasanaeth newyddion o'r fath yn "anaddas".

Roedd cwmni Wales Live, hynny yw cwmni UTV a Phapurau Newydd Gogledd Cymru ar y cyd, wedi ei ddewis ar gyfer y cynllun peilot.

Roedd y gwasanaeth ar ITV Cymru i fod yn un o dri chynllun peilot, y ddau arall yn Yr Alban ac yng Ngogledd Lloegr.



HEFYD
Dewis UTV i ddarparu newyddion
25 Maw 10 |  Newyddion
Newyddion rhanbarthol ar agenda
03 Chwef 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific