British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Medi 2010, 14:11 GMT 15:11 UK
Dim Draig Goch uwchben neuadd y sir

Draig Goch

Ni fydd Cyngor Sir Fynwy yn chwifio'r Ddraig Goch uwchben Neuadd y Sir yn Nhrefynwy yn ystod wythnos Cwpan Ryder.

Y rheswm am hyn, meddai'r cyngor, oedd nad oedden nhw am gael eu tynnu i mewn i ddadl fel "A yw Trefynwy yn dre wirioneddol Gymreig neu beidio?"

Rheswm arall oedd mai Jac Yr Undeb oedd yr unig faner ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Roedd yr hanesydd a'r archeolegydd Stephen Clarke wedi ysgrifennu at brif weithredwr y cyngor yn nodi fod y Ddraig Goch yn cyhwfan uwchben y rhan fwyaf o adeiladau cyhoeddus a hanesyddol Cymru.

'Rhan amlwg'

Yn ei lythyr dywedodd: "Yn ystod achosion y Siartwyr roedd Neuadd y Sir yn amlwg yn hanes a democratiaeth Cymru.

"Felly mae'n debyg y dylai Trefynwy, y dref gynta yng Nghymru, chwifio ein baner genedlaethol yn falch.

"Yn wahanol i'r Alban ac Iwerddon, dyw Cymru ddim yn cael ei chynrychioli ar Jac yr Undeb ac fe fyddai'n drueni mawr pe bai baner, sy'n sarhad ar ein tre, yn cael ei chwifio."

Wedi iddo gael ymateb y cyngor, dywedodd Mr Clarke nad oedd yn deall yr awgrym y byddai dadl a oedd y dre'n Gymreig neu beidio.

"Fe fyddwn i'n falch i drefnu ymgyrch gyhoeddus i godi arian i brynu baner newydd i'r awdurdod.

"Mae'n warthus nad yw'r cyngor sir yn gallu fforddio prynu baner genedlaethol ar gyfer un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru, a hynny yn ystod Wythnos Cwpan Ryder."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific