British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Medi 2010, 09:25 GMT 10:25 UK
Ystyried mesur diogelwch bysiau ysgol

Bws Ysgol
Bydd y mesurau newydd yn cael eu trafod yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae pwyllgor amlbleidiol o aelodau cynulliad wedi dechrau astudio mesur arfaethedig fydd yn gorfodi awdurdodau lleol i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol.

Bydd Mesur Diogelwch ar Drafnidiaeth Dysgwyr (Cymru) yn cynnwys ystod eang o fesurau diogelwch ar gyfer trafnidiaeth ysgolion.

Dechreuodd ymgyrch i wella diogelwch ar fysiau ysgol yn dilyn marwolaeth bachgen ym Mro Morgannwg yn 2002.

Bu farw Stuart Cunningham-Jones pan fu'r bws ysgol yr oedd yn teithio ynddo fod mewn gwrthdrawiad.

Bydd y mesur yn cyflwyno nifer o newidiadau gan gynnwys :-

  • Gosod gwregysau diogelwch priodol;
  • Defnyddio bysiau un llawr yn unig;
  • Defnyddio bysiau gafodd eu gwneud ar ôl dyddiad penodol;
  • Gosod camerâu cylch cyfyng ar fysiau;
  • Darparu hyfforddiant i yrwyr yn ôl canllawiau Llywodraeth y Cynulliad;
  • Gwneud asesiadau risg perthnasol.

Gofyn barn

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Jenny Randerson AC: "Bydd y mesur yn caniatáu i weinidogion Llywodraeth Y Cynulliad osod gofynion diogelwch ar y cerbydau sy'n cludo ein plant a phobl ifanc i'r ysgol.

"Mae'n fater sydd wedi bod yn y newyddion yn aml dros y blynyddoedd, ac yn un sy'n effeithio ar bob un ohonom ni.

"Dyna pam yr ydym am i bawb fwydo i mewn i'r broses scriwtineiddio - er mwyn sicrhau y bydd deddfwriaeth ddigon cry gennym i gadw'n plant yn ddiogel ar eu taith i'r ysgol."

Mae'r pwyllgor am glywed barn y cyhoedd ar y mater drwy ysgrifennu at Sarah Beasley, Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. T? Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.



HEFYD
Bysiau ysgol: Rheolau mwy llym
21 Medi 10 |  Newyddion
Plant: Cod ymddygiad teithio
03 Tach 09 |  Newyddion
Pasio mesur cludo plant i'r ysgol
01 Hyd 08 |  Newyddion
Bysiau ysgol: 'Na' i godi tl
15 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific