British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 27 Medi 2010, 05:49 GMT 06:49 UK
Ffarwelio ag enw Corus a chroesawu Tata

Gwaith Dur Port Talbot
Pa mor ymarferol ydi tyllu o dan y gwaith dur ?

Er mai rhywbeth gweledol yn bennaf fydd dileu enw a logo Corus oddi ar y ffatrïoedd ar draws y DU mae'n nodi diwedd cyfnod.

O ddydd Llun ymlaen, enw'r perchnogion, Tata, o India fydd i'w weld.

Yn 1999 daeth British Steel yn Corus pan wnaeth uno gyda chwmni dur Hoogovens BV o'r Iseldiroedd.

Yn ystod oes Corus bu gostyngiad yng ngwerth y cwmni, penderfyniadau anodd i gau ffatrïoedd a gweithwyr yn colli eu gwaith.

Ar un cyfnod roedd prif gyfranddaliadau Corus yn 4c.

Wedi i waith Glyn Ebwy gau a diwedd cynhyrchu dur yn Llanwern, roedd 'na ansicrwydd wrth i'r cwmni o India brynu Corus yn 2007.

Ond mae wedi cael cyfnodau da a drwg yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Dyfodol

Fe ddaeth problemau ariannol cenedlaethol a'r dirwasgiad arweiniodd at 1,000 o swyddi Corus yn cael eu colli yng Nghymru yn unig.

Ond fe ddaeth tro ar fyd ac yn gynharach eleni fe gyhoeddwyd buddsoddiad o bron i £200 miliwn mewn ffwrnais newydd ym Mhort Talbot.

Mae 'na fwriad hefyd i fuddsoddi £60 miliwn i ailgylchu allyriadau.

Ond faint o ddyfodol sydd 'na i Tata?

Y cam mwya sydd wedi ei nodi yw bwriad i godi glofa ar safle gwaith Port Talbot wrth i archwiliad £6 miliwn gael ei gynnal.

Mae Aelod Seneddol Aberafan, Hywel Francis, wedi disgrifio'r cam fel moment allweddol all fod mor bwysig a chychwyn y gwaith dur ei hun.

Nid mater o os ond yn hytrach pryd yw hyn meddai.

Cyflogi 300?

Mae 'na son am y pwll ers y 1970au ac fe allai Tata fod yn cloddio miliwn tunnell y flwyddyn, hanner yr hyn y mae'r gwaith ym Mhort Talbot ei angen .

Gallai gyflogi dros 300 o bobl.

Yr unig her bosib yw canfod y gweithwyr.

Mae Tyrone O'Sullivan, Cadeirydd Pwll y Twr yng Nghwm Cynon, wedi edrych ar y posibilrwydd o gloddio'r safle yn y gorffennol.

Mae'n derbyn y byddai rhaid defnyddio gweithwyr o dramor i ddechrau ond mae'n galw am ganolfan hyfforddi i baratoi gweithwyr a fydd y genhedlaeth newydd i gloddio.

Y cwestiwn mawr serch hynny, yw nid pa mor ymarferol fydd cloddio o dan y gwaith dur a'r M4 ond a fydd hi'n rhatach yn y tymor hir i gloddio am y glo yn lleol na'i fewnforio o Awstralia ac Africa.

Maen nhw'n gwestiynau y bydd rhaid i Tata eu hystryried ond mae'r fantais yn amlwg.

Y gwaith dur fydd yr unig un yn Ewrop gyda chyflenwad o lo ar bris sefydlog ar stepen y drws er bod hi'n mynd i gostio'n ddrud i sefydlu'r pwll.



HEFYD
Tata i Corus am £5.75 biliwn
31 Ion 07 |  Newyddion
Cwmni arall am 'brynu' Corus
22 Hyd 06 |  Newyddion
Colli swyddi dur
10 Tach 04 |  Newyddion
Golau gwyrdd i brosiect £1 biliwn
09 Ebr 10 |  Newyddion
Gwaith dur: Ailddechrau ffwrnais
10 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific