British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 26 Medi 2010, 13:36 GMT 14:36 UK
Arian i geisio adfer lido Pontypridd

Lido Pontypridd
Cafodd y lido ei agor yn 1927

Mae cynlluniau i adfer lido hanesyddol yn y cymoedd gam yn nes, diolch i arian gan y loteri.

Cafodd y lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ei godi yn 1927 ac mae'n adeilad rhestredig gradd II.

Bydd y gwaith o adfer y safle yn costio tua £3.6 miliwn.

Y lido yw'r unig un yng Nghymru sy'n adeilad rhestredig.

Mae'n un o 14 ym Mhrydain sydd o bwys pensaernïol.

Bydd y lido yn derbyn £75,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, er mwyn llunio cynllun datblygu.

Lido   Pontypridd
Cafodd y lido ei gau yn 1991

Yna fe fydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ddwy flynedd i lunio cynllun manwl a gwneud cais am £2.1 miliwn o arian loteri.

Credir bod Parc Ynysangharad yn denu tua 800,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Er hyn fe wnaeth poblogrwydd y lido ddirywio yn yr 1980au ac fe gaeodd yn 1991.

Mae'r cynllun i adfywio'r safle yn dod ar yr un pryd a chynlluniau i ddatblygu canol tre Pontypridd.

Mae disgwyl i ganolfan siopa newydd sy'n werth £10.5 miliwn gael ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2012.

Dywedodd y cynghorydd Robert Bevan, aelod o gabinet y cyngor, fod arian y loteri yn rhywbeth i'w groesawu.

"Bydd o'n caniatáu i'r cyngor ymchwilio ymhellach i werth y lido, a hefyd y budd y bydd cynllun o'r fath yn ei roi i'r ardal."



HEFYD
Cyhoeddi cynlluniau adfywio parc
12 Meh 08 |  Newyddion
'Angen denu siopwyr i dref'
04 Meh 10 |  Newyddion
Gobaith ailddatblygu camlas
23 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific