British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Medi 2010, 07:19 GMT 08:19 UK
Angen mwy o organau

Cerdyn rhoddwr
Mae Llywodraeth y Cynulliad am newid y system yng Nghymru

Bydd arbenigwyr yn y maes rhoi organau yn cwrdd yng Nghaerdydd ddydd Gwener i drafod sut i daclo'r prinder organau yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r prinder, yn ôl yr awdurdodau, yn arwain at tua 1,000 o farwolaethau bob blwyddyn ym Mhrydain.

Bydd 350 o gynrychiolwyr o 33 o wledydd yn bresennol yng Nghyngres Rhoi Organau Ewrop, gan gynnwys nyrsys arbenigol.

"Mae'r nyrsys arbenigol yn chwarae rôl allweddol yn ystod y broses o roi organau a'u trawsblannu," meddai Louise Collar o sefydlaid Gwaed a Thrawsblaniad Y Gwasanaeth Iechyd, sef y sefydliad sy'n trefnu rhoi organau.

"Maen nhw'n gwneud hynny drwy ofalu am roddwyr a'u teuluoedd a gweithio gyda nifer o staff iechyd proffesiynol eraill sy'n rhan o'r broses," meddai.

Gwella'r gwasanaeth

Mae'r nyrsys yn gweithio gydag adrannau brys a gofal dwys er mwyn adnabod pobl allai fod yn rhoddwyr organau.

"Mae cynnydd yn nifer y nyrsys arbenigol yn golygu fod gennym erbyn hyn staff yn y mwyafrif o ysbytai lle mae rhoi organau yn digwydd," meddai Ms Collar.

"Mae hyn yn helpu gwella'r gwasanaeth i gleifion sydd angen trawsblaniad."

Yn dilyn argymhellion mewn adroddiad yn 2008, mae nifer y nyrsys arbenigol ym Mhrydain wedi codi i 190 - bron ddwbl yr hyn oedd yna'n flaenorol.

Dyma'r tro cynta i'r Gyngres gael ei chynnal yn y DU - cynhaliwyd un y llynedd yn Berlin.

Yng Ngorffennaf roedd 333 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ac mae un person yn marw bob 11 niwrnod.

Y llynedd fe gafodd 161 o organau eu trawsblannu.



HEFYD
Pedair deddf newydd i Gymru?
13 Gorff 10 |  Newyddion
Hwb i newid system rhoi organau
08 Gorff 10 |  Newyddion
Organau: Apl arbennig gan fam
23 Ion 10 |  Newyddion
Organau: Newid y drefn gofrestru?
18 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific