British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Medi 2010, 05:57 GMT 06:57 UK
Cartref newydd i'r Llywodraeth yn y gogledd

Adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno
Mae 'na gryn oedi wedi bod cyn i'r adeilad agor

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn agor swyddfeydd gwerth £20 miliwn Llywodraeth y Cynulliad yn y gogledd.

Yng Nghyffordd Llandudno mae'r adeilad ar safle hen waith Hotpoint.

Dyma'r trydydd adeilad a'r olaf fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad "i ddod â'i gwasanaethau yn nes at bobl Cymru."

Dechreuodd yr adleoli swyddi yn 2002 ac ar y pryd roedd 23% o swyddi Llywodraeth y Cynulliad y tu allan i Gaerdydd.

Erbyn mis Awst eleni roedd 49% o'r swyddi y tu allan i'r brifddinas.

Daw nifer o weithwyr y swyddfa newydd o swyddfeydd yn Llanelwy a Chaernarfon.

Elwa

Bydd lle i 650 o weithwyr yn y ganolfan yng Nghyffordd Llandudno yn y pe draw.

Dywedodd Peter Harries o undeb y PCS mai symud swyddi o Gaerdydd oedd "y peth cywir i'w wneud".

Ond roedd nifer y rhai oedd yn barod i symud "yn llai na'r disgwyl".

"Rydym wedi gweld datganoli o Lundain i Gaerdydd, nawr mae angen datganoli o Gaerdydd er mwyn i bob rhan o Gymru elwa.

"Roeddem wedi disgwyl gweld mwy yn manteisio ar adleoli ond rydym yn sôn am fywydau pobl, plant mewn ysgolion a chodi gwreiddiau.

"Dydi hynny wedyn ddim yn fy synnu. Nid y gogledd yw'r rhwystr, dyw pobl ddim eisiau symud a newid ffordd o fyw."

'Ymrwymiad'

Mae adeilad Cyffordd Llandudno wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys un effeithlonrwydd ynni.

"Mae'r swyddfa newydd hon yn creu cyswllt uniongyrchol â'r gymuned ac yn dangos ein bod yn cymryd yr ymrwymiad i ddod â'r llywodraeth yn agosach at bobl Cymru o ddifri'," meddai Mr Jones.

"Cyffordd Llandudno yw'r lle delfrydol i Lywodraeth Cynulliad Cymru fuddsoddi yn ei weithrediadau yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod yr adeilad modern hwn yn drawiadol."

Cafodd ei ddylunio i gynnwys man penodol o'r enw'r Bont lle gall pobl alw heibio i weld y swyddogion a staff.

Fe fydd y drysau yn agor ddydd Sadwrn wrth i'r cyhoedd gael y cyfle cyntaf i ymweld â'r adeilad.

Swyddi

Yn ôl y llywodraeth, cafodd dros £8.7 miliwn ei wario yn lleol yn ystod y cyfnod adeiladu ac roedd tua 50% o weithwyr y prosiect yn byw yn yr ardal.

Maen nhw wedi dweud bod 150 o swyddi yn y gogledd drwy greu swyddi i helpu rhedeg y swyddfa ac adleoli swyddi o'r de - a 30 o swyddi eraill wedi eu creu drwy'r timau rheoli cyfleusterau ac arlwyo.

"Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol mae hwn yn newyddion da i bobl yn y gogledd ... swyddfa ar gyfer yr hirdymor yw hwn a fydd yn cynnig rhagor o gyfleoedd," meddai'r Prif Weinidog.

Tu mewn i adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno
Yn yr adeilad mae 'na le ar gyfer y cyhoedd dderbyn gwybodaeth



HEFYD
300 o swyddi'n symud
23 Chwef 05 |  Newyddion
Dymchwel ffatri i greu swyddi
09 Gorff 01 |  Newyddion
Oedi o flwyddyn: Cyfarfod brys
15 Meh 07 |  Newyddion
Agor swyddfeydd newydd y Cynulliad
30 Tach 06 |  Newyddion
Swyddfeydd cynulliad i Aberystwyth
17 Awst 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific