British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Medi 2010, 06:01 GMT 07:01 UK
Gorymdaith i gofio Terfysg Tonypandy

Glowyr Tonypandy
Roedd 800 o lowyr wedi mynd ar streic oherwydd eu cyflogau

Bydd 400 o ddisgyblion Y Rhondda yn gorymdeithio drwy Donypandy fel rhan o ddigwyddiadau i nodi 100 mlynedd ers y terfysgoedd yno.

Cyfres o achosion o wrthdaro treisgar rhwng glowyr a'r heddlu oedd Terfysgoedd Tonypandy yn 1910 a 1911.

Canolbwynt y terfysgoedd canrif yn ôl oedd Dunraven Street.

Dydd Mercher fe fydd y plant yn cofio'r hyn ddigwyddodd mewn seremoni ar y stryd.

Roedd y terfysgoedd wedi eu canolbwyntio ar byllau glo'r Cambrian ac fe ddaeth uchafbwynt y terfysgoedd wrth i weithwyr y pyllau a'r perchnogion wrthdaro.

Bydd y disgyblion yn cofio'r rhai gafodd eu heffeithio gan yr anghydfod, y caledi, yr aberth a'r rhai gollodd eu bywydau yn Y Rhondda dros y blynyddoedd.

Dim profiad

Daw'r orymdaith wythnosau cyn y canmlwyddiant ym mis Tachwedd wrth i gwmni ffilmio'r orymdaith.

Fe fydd yn rhan o raglen ddogfen gan John Geraint am y terfysgoedd yn cael ei darlledu ym mis Tachwedd.

Siop ar Brif Stryd Tonypandy yn 1910
Cafodd drysau a ffenestri siopau eu gorchuddio yn ystod y terfysg

Dywedodd Mr Geraint bod digwyddiadau o'r fath yn "bwysig o ran hanes lleol".

"Fe fyddai fy nhad-cu yn rhan o'r terfysgoedd.

"Does gan y genhedlaeth bresennol ddim profiad uniongyrchol o weithio mewn pwll glo...

"Mae'n bwysig bod pobl yr ardal yn ymwybodol o'u hanes.

"Os nad ydan ni'n deall ein hanes allwn ni ddim dechrau deall pwy ydyn ni ac o le y daethon ni."

Mae'r disgyblion fydd yn rhan o'r orymdaith wedi bod yn gweithio ar gyfres o ddigwyddiadau dros y flwyddyn i nodi'r canmlwyddiant.

Ym mis Awst 1910 cafodd 800 o lowyr eu cau allan o bwll Elai ym Mhenygraig, un o byllai cwmni'r Cambrian, ar ôl dod i anghydfod gyda'r perchnogion oherwydd tâl.

Anafu

Bu tua 100 o blismyn yn gwarchod y gwaith ac fe gafodd gweithwyr newydd eu cyflogi.

O ganlyniad fe benderfynodd gweithwyr ym mhyllau eraill Y Cambrian fynd ar streic mewn cydymdeimlad.

O fewn mis roedd 12,000 o weithwyr ar streic ac erbyn mis Tachwedd roedd trais ar strydoedd Tonypandy.

Fe anfonodd Winston Churchill, a oedd yn Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, filwyr i gynorthwyo'r plismyn.

Cafodd dros 500 o bobl ac 80 o blismyn eu hanafu a bu farw un glöwr o anafiadau i'w ben ar ôl cael ei daro sawl gwaith gan faton un o'r plismyn.

Blwyddyn wedi'r streic gychwyn daeth i ben wrth i'r gweithwyr ddychwelyd ac ôl derbyn codiad cyflog bychan.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific