British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Medi 2010, 15:24 GMT 16:24 UK
Llengfilwyr: Profion negyddol

Bacteria Legionella

Daeth profion ar bedwar safle gan y tîm sy'n ceisio canfod tarddiad Clefyd Y Llengfilwyr yn ôl yn negyddol meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r pedwar safle wedi cael clywed ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw ailagor, gan nad yw'r profion wedi dangos tystiolaeth o'r bacteria legionella.

Bydd profion pellach ar samplau o'r 22 achos sydd wedi'u cadarnhau yn cael eu cynnal er mwyn ceisio canfod cysylltiad.

Eisoes mae dau berson - dyn 85 oed a menyw 49 oed - wedi marw fel rhan o'r clwstwr yma o'r haint.

Mae'r achosion i gyd wedi'u canoli mewn ardal 12 cilomedr bob ochr i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd rhwng Y Fenni a Llandarcy.

Dau arall

Cafodd marwolaethau Bev Morgan, 49 o Rhymni, a'r dyn 85 oed eu cysylltu gyda'r achosion hyn.

Mae dau berson arall - dyn 70 oed a menyw 64 oed - hefyd wedi marw o'r clefyd, ond dyw'r rhain ddim yn gysylltiedig â'r clwstwr yn y de-ddwyrain.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi archwilio bob un o'r 28 twr oeri sydd wedi'u cofrestru yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Rhymni.

Cafodd pedwar - ym Merthyr, Rhymni a Chwm Cynon - eu cau er mwyn cynnal profion, ond fe fyddan nhw nawr yn ailagor.

Bu'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a swyddogion iechyd amgylcheddol hefyd yn ymweld â dros 100 o weithleoedd eraill.



HEFYD
Llengfilwyr: Ail farwolaeth
20 Medi 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Clwstwr o 21
17 Medi 10 |  Newyddion
Mam o Rymni'n colli brwydr Llengfilwyr
16 Medi 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Gormod o oedi?
15 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: 'Angen mwy o wybodaeth'
14 Medi 10 |  Newyddion
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific