British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Medi 2010, 11:38 GMT 12:38 UK
Bysiau ysgol: Rheolau mwy llym

Bws ysgol
Byddai'n rhaid i fysiau osod gwregysau diogelwch

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi argymhellion ddydd Mawrth fyddai'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i fysiau ysgol rhoi tri o blant mewn sedd i ddau berson.

Byddai'r mesur hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i orfodi pob bws i osod gwregysau diogelwch a chamera cylch cyfyng, tra'n gwahardd y defnydd o fysiau dau lawr.

Y Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, fydd yn cyflwyno'r mesur i'r Cynulliad.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am well diogelwch ar fysiau sy'n cludo plant yn dilyn nifer o ddamweiniau.

Yn 2002 bu farw bachgen ifanc, Stuart Cunningham-Jones yn dilyn damwain fws ym Mro Morgannwg.

Byddai'r ddeddf newydd yn rhoi'r hawl i sicrhau na fyddai bysiau gafodd eu cynhyrchu cyn 2001 yn cael cludo plant ysgol.

O dan y ddeddfwriaeth newydd fe fyddai hawl gan y Llywodraeth i'w gwneud yn anghyfreithlon i fysiau ysgol osod tri o blant dan 14 oed mewn sedd ar gyfer dau berson.



HEFYD
Plant: Cod ymddygiad teithio
03 Tach 09 |  Newyddion
'Na' i deithio ar fws hanner gwag
18 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific