British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Medi 2010, 19:03 GMT 20:03 UK
Addysg Gymraeg: Datrys y ffrae?

Tir i godi ysgol newydd yng Nghaerdydd

Bydd Cyngor Caerdydd yn datgelu cynlluniau ddydd Mawrth i godi adeilad newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd.

Bu ansicrwydd am ddyfodol lleoliad Ysgol Treganna, wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wrthod cynlluniau gwreiddiol y cyngor i gau ysgol cyfrwng Saesneg gerllaw a symud disgyblion Treganna yno.

Mae rhieni wedi bod yn ymgyrchu am bediar blynedd oherwydd bod yr adeilad presennol yn orlawn.

Bwriad Caerdydd nawr yw codi ysgol newydd ar dir y cyngor ar Ffordd Sanitorium erbyn 2013.

Bydd yn costio rhyw £9 miliwn i'w hadeiladu, a Llywodraeth y Cynulliad, mae'n debyg fydd yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'r arian.

Yn wreiddiol , roedd y cyngor yn awyddus i gau ysgol cyfrwng Saesneg Lansdowne lle roedd llefydd gwag, a symud plant Ysgol Treganna i'r safle.

Mae Ysgol Treganna yn orlawn.

Ond fe wrthododd y Prif Weinidog Carwyn Jones yr argymhelliad hwnnw.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor mae gwleidyddion eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i'r cynllun newydd.

Mae Grŵp Ymgyrchu Treganna wedi bod yn ymgyrchu ers dros bedair blynedd i leddfu'r broblem o ddiffyg lle yn yr ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp y byddan nhw'n ymateb unwaith iddyn nhw weld cynlluniau'r cyngor yn llawn.



HEFYD
Cyngor yn 'llusgo traed'
04 Meh 10 |  Newyddion
Plaid yn galw am esboniad llawn
30 Mai 10 |  Newyddion
Beirniadu atal ad-drefnu ysgolion
29 Mai 10 |  Newyddion
Na i ehangu addysg Gymraeg
27 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific