British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Medi 2010, 06:37 GMT 07:37 UK
Cyngor i gymeradwyo ysgol newydd yn Wrecsam

Plant ysgol
Mwy o alw am addysg Gymraeg

Fe fydd cynlluniau £5.9 miliwn i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Wrecsam yn cael eu trafod ddydd Mawrth.

Dywed swyddogion addysg fod y cynlluniau mewn ymateb i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

Eisoes mae 'na bum ysgol fabanod ac iau yn y sir sydd wedi bod yn orlawn ers peth amser.

Mae cynghorwyr Wrecsam yn cael eu cynghori i gymeradwyo'r cynllun ar gyfer ysgol newydd.

Does 'na ddim sicrwydd terfynol am union leoliad yr ysgol newydd ond y gred ydi y gallai fod yn ardal Gwersyllt.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Ysgol Gynradd Plas Coch, Osian Jones, bod 'na fwy o blant na'r disgwyl yn yr ysgol oherwydd dymuniad rhieni i anfon eu plant i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Llai o bwysau

"Yn arferol, fe fyddwn ni'n derbyn 30 o ddisgyblion, ond am y drydedd flwyddyn yn olynol rydym wedi derbyn 60," meddai.

Lle i 240 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol ond mae 'na 310 ar y gofrestr.

Caiff plant eu haddysgu mewn dosbarthiadau symudol ychwanegol ac mae'r neuadd hefyd wedi ei addasu'n ofod ar gyfer dysgu.

Y disgwyl yw y bydd lle i 210 o blant yn yr ysgol newydd gan leihau'r pwysau ar Ysgol Plas Coch.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad dalu mwyafrif y swm am yr ysgol newydd ond fe fydd rhaid i Gyngor Wrecsam gyfrannu 30% (£1.7 miliwn) tuag at y cynllun.



HEFYD
Angen ysgol Gymraeg arall
12 Maw 09 |  Newyddion
Canolfan chwarae unigryw yn cau?
08 Maw 09 |  Newyddion
Ad-drefnu addysg: 'Cam ymlaen'
11 Maw 09 |  Newyddion
Sir yn trafod dyfodol ysgolion
24 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific