British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Medi 2010, 16:04 GMT 17:04 UK
Clefyd y Llengfilwyr: Ail farwolaeth

Clefyd y Llengfilwyr
Mae'r symptomau cychwynnol yn debyg i rai ffliw cyn bod problemau anadlu'n datblygu

Cafwyd cadarnhad bod ail berson wedi marw o glefyd y llengfilwyr yn ne Cymru a'i fod ymhlith clwstwr o 22 sydd wedi eu heintio.

Bu farw'r dyn 85 oed yn yr ysbyty ar Fedi 11.

Dydd Gwener cafwyd cadarnhad fod dynes 49 oed o Gwm Rhymni wedi marw o'r clefyd ar Fedi 12.

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio i glwstwr 12 cilomedr naill ochr i ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Y Fenni a Llandarcy.

Byddai gan bobl gysylltiad â'r clwstwr pe bai nhw'n byw neu wedi ymweld â'r ardal yn y pythefnos cyn cael eu taro'n sâl.

Yn ogystal â'r clwstwr mae yna saith o bobl eraill wedi eu heffeithio gan glefyd y llengfilwyr.

Dywedodd yr awdurdodau nad oedd cysylltiad rhwng y saith a'r clwstwr o 22.

Achos cymhleth

Mae'r saith achos yn cynnwys dau o bobl sydd wedi marw.

Bu farw dyn 70 oed ar Fedi 8 a gwraig 64 oed o Bontypridd ar Fedi 6.

Wrth ymchwilio i darddiad y clefyd, mae swyddogion iechyd a diogelwch wedi mynd i fwy na 100 o weithleoedd ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chwm Rhymni.

Dywedodd y Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r achos yma yn un cymhleth.

"Yn ôl ein gwaith hymchwil, y tarddiad mwyaf tebygol yw prosesydd diwydiannol, fel tyrau oeri."

Mae pedwar o dyrau oeri yn yr ardal wedi cael eu cau a'u diheintio.

Does dim tystiolaeth fod yr un o'r pedwar yn gyfrifol am yr haint.

Mae'r ymchwiliadau yn parhau.

Dylai unrhyw un sy'n poeni gysylltu â meddyg teulu.

Mae'r symptomau cychwynnol yn debyg i rai ffliw cyn bod problemau anadlu'n datblygu.



HEFYD
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion
Mam o Rymni'n colli brwydr Llengfilwyr
16 Medi 10 |  Newyddion
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr
07 Medi 10 |  Newyddion
Claf yn 'ddifrifol iawn'
26 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific