British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 18 Medi 2010, 12:13 GMT 13:13 UK
Pab 'yn drist' nad yw'n mynd i Gymru

Y Pab
Y Pab y tu allan i Gadeirlan Westminster ar drydydd diwrnod ei ymweliad

Ar drydydd diwrnod ei ymweliad mae'r Pab wedi dweud ei fod "yn drist" nad yw'n mynd i Gymru.

Mewn offeren yng Nghadeirlan Westminster fe fendithiodd y genedl Gymreig a dweud ei fod yn falch i anrhydeddu ei phobl a'i thraddodiad Cristnogol.

Fe fendithiodd fosaic o Dewi Sant wedi ei osod yn y gadeirlan a cherflun o'r Forwyn Fair gafodd ei gludo o Aberteifi i Lundain.

Dywedodd: "Roedd pregethu Dewi Sant yn syml ond yn ddwfn a'i eiriau olaf i'w fynachod oedd: 'Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain'."

Roedd ei neges, meddai, yn atseinio o hyd heddiw ac yn golygu cariad unwaith eto at Grist a'i Eglwys.

'Atgoffa'

"Dwi'n mawr obeithio y bydd y cerflun, fydd yn cael ei gludo'n ôl i Aberteifi, yn atgoffa pobl yn barhaol o'm cariad at bobl Cymru ..."

Ac yn Gymraeg dywedodd: "Bendith ar bobl Cymru."

Wedyn fe fe wnaeth y Pab gyfarfod â Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Yn ystod yr offeren fe dderbyniodd Samantha Walker, 13 oed, a'i brawd saith oed, David, o Landudoch ger Aberteifi, linynnau paderau oddi wrth y Pab.

"Ro'n i'n hapus iawn," meddai Samantha. "Ro'dd yr holl beth yn anhygoel."

Dywedodd eu mam, Rachel: "Dwi'n falch iawn ohonyn nhw. Ro'dd yr offeren yn wych a'r miwsig a'r bregeth yn hyfryd."

Yn gyfrinachol

Fe gafodd copi o'r llyfr cyntaf gafodd ei argraffu yng Nghymru ei gyflwyno iddo.

Cafodd Y Drych Cristianogawl ei gyhoeddi yn gyfrinachol gan Babyddion Cymru yn 1586 mewn ogof ar benrhyn Rhiwledyn yn Llandudno.

Mae'r llyfr yn draethawd byr am gariad at Dduw o safbwynt Catholig.

Yr Esgob Edwin Regan o Wrecsam gyflwynodd y llyfr i'r Pab fel rhodd gan bobl Cymru.

Cynhyrchwyd y copi o'r llyfr gan Julian Thomas o'r Llyfrgell Genedlaethol.

Pedwar copi o'r llyfr sydd wedi goroesi ac mae'r unig un cyflawn perffaith yn y llyfrgell yn Aberystwyth.

'Trysor'

"Y Drych Cristianogawl yw un o drysorau mwyaf y genedl ac rydym yn hynod falch y bydd y copi yn cael ei gyflwyno i'r Pab,"meddai Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.

Mae'r copi yn mesur pum modfedd a hanner wrth bedair modfedd ac yn ddigon twt i'w guddio a'i gario mewn poced.

Ynddo mae 180 tudalen mewn print Gothig Seisnig.

Y gred yw mai'r awdur oedd yr offeiriad cenhadol Robert Gwyn (1540-50 - 1592-1604) o Lanarmon ger Pwllheli.

Mae arbenigwyr yn credu bod y llyfr wedi ei argraffu ar dir yr uchelwr Pabyddol Robert Pue o Benrhyn Creuddyn.

Y rhai eraill oedd yn gysylltiedig â'r fenter oedd Roger Thackwell a'r offeiriad William Davies a ferthyrwyd ym Miwmares.



HEFYD
Dicter nad yw'r Pab yn dod i Gymru
15 Medi 10 |  Newyddion
Yr esgob Pabyddol sy'n edrych ymlaen
15 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific