British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Medi 2010, 10:34 GMT 11:34 UK
Mynd i'r afael sbwriel traethau

Sbwriel
Mwy na 3,000 o eitemau o sbwriel ar bob cilomedr o draeth yng Nghymru

Mae gwirfoddolwyr dros y penwythnos yn helpu mudiad wrth gasglu sbwriel ar draethau Cymru.

Ymhlith y traethau mae Brynsiencyn a Phorth Cwyfan ar Ynys Môn, Abersoch a'r Bermo yng Ngwynedd, Aberystwyth, Dale yn Sir Benfro a Llanelli yn Sir Gâr.

Dywedodd y trefnwyr, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, fod y sbwriel ar draethau Cymru yn uwch na'r cyfartaledd Prydeinig.

Yn ôl y mudiad, mae'r ystadegau'n awgrymu bod angen cynllun penodol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.

'Cefnogaeth'

Ar gyfartaledd mae mwy na 3,000 o eitemau o sbwriel ar bob cilomedr o draeth yng Nghymru.

Dywedodd Gill Bell, swyddog Cymru'r mudiad: "Mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnon ni i lanhau a chynnal arolwg o'n traethau ac er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y sbwriel sy'n bygwth ein traethau a'n bywyd gwyllt.

"Fe all plastig, er enghraifft, bara yn y moroedd am filoedd o flynyddoedd."

Y llynedd fe lanhaodd gwirfoddolwyr 73 o draethau yng Nghymru.

59,226 o eitemau

Cafodd 457 o fagiau sbwriel eu casglu, yn cynnwys 59,226 o wahanol eitemau.

Mae cynnydd o 77% mewn gwastraff cyffredinol ers 1994.

Ymhlith y pethau y cafwyd hyd iddyn nhw ar y traethau roedd clytiau babis, set tractor, pibell, brwsh, a het menyw.

Nwyddau plastig oedd 74.7% o'r gwastraff.



HEFYD
Gwobr i 44 o draethau
09 Ebr 09 |  Newyddion
Traethau sl: Haf gwael i'w feio
23 Mai 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific