British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Medi 2010, 06:17 GMT 07:17 UK
Tywysog yn gymwys i hedfan

Y Tywysog William mewn hofrennydd.
Bu ar gwrs yn Y Fali am 19 mis.

Bydd y Tywysog William yn mynychu seremoni raddio ar ôl dod yn gymwys i hedfan awyrennau achub y llu awyr.

Fe wnaeth y tywysog, sy'n is gapten, gwblhau cwrs hyfforddi 19 mis ym maes awyr Y Fali ar Ynys Môn.

Yn ystod y tair blynedd nesaf fe allai gael ei leoli mewn gwahanol feysydd y llu awyr ym Mhrydain

Yn ystod seremoni ddydd Gwener bydd y tywysog ac aelodau eraill o'r llu awyr yn derbyn tystysgrifau a bathodynnau.

Yn ystod ei gyfnod yn Y Fali mae o wedi bod ar nifer o ymarferiadau dros y Môr Celtaidd a mynyddoedd Eryri.

Dywed y Llu Awyr iddo gael ei drin fel pawb arall ac iddo basio'r cwrs oherwydd ei allu personol.

Bydd o nawr yn rhan o dîm o bedwar ac yn dechrau fel cyd-beilot.

Tra ar ddyletswydd fe fydd o'n byw ar y maes awyr, er mwyn gallu ymateb i alwadau brys.

Bydd y seremoni graddio yn cael ei gynnal am 10am.



HEFYD
'Nid trethdalwyr lleol fydd yn talu'
19 Gorff 10 |  Newyddion
Tywysog yn dod i Gymru
15 Ebr 10 |  Newyddion
Tywysog: Hyfforddi yng Nghymru
12 Ion 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific