British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Medi 2010, 05:49 GMT 06:49 UK
Mam o Rymni'n colli brwydr Llengfilwyr

Bev Morgan
Bu farw Bev Morgan yn dilyn pythefnos o salwch.

Dywed merch i fenyw 49 oed fu farw o Glefyd y Llengfilwyr bod ei mam wedi brwydro'r clefyd am bythefnos.

Bu farw Bev Morgan o Rhymni yn yr ysbyty ddydd Sul fel un o'r achosion o'r haint yn ne Cymru.

Dywedodd ei merch, Rebecca Williams, fod y fam i ddau o blant wedi bod yn diodde o niwmonia achoswyd gan Glefyd y Llengfilwyr.

Yn y cyfamser mae cyfreithiwr i'r dioddefwyr wedi galw am reolau llymach i atal achosion.

Mae dau berson arall wedi marw o'r clefyd ym mis Medi er nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'r clwstwr achosion.

'Cyn ei hamser'

Yn ôl Ms Williams, dywedodd yr ysbyty wrthi bod y bacteria legionella wedi ei ganfod yn y profion ar ei mam.

"Roedd pethau'n wael a ninnau'n meddwl y gwaetha," meddai, "ond yna fe ddechreuodd wella.

"Fe ddeffrodd mam, ac roedd hi'n ymwybodol ein bod ni gyda hi, yn dal ein llaw ac ati.

"Ond yna fe ddirywiodd eto - mae hyn dros gyfnod o bythefnos.

"Naeth hi ddim para llawer hirach wir."

Dywedodd Ms Williams bod ei mam wedi marw cyn ei hamser, ond "doedd dim rhaid i bethau ddigwydd fel hyn."

MoT?

Dywedodd Philip Banks, o gwmni cyfreithwyr Irwin Mitchell, bod angen gwell rheolaeth ar dyrrau oeri ac offer arall sydd wedi bod yng nghanol yr ymchwiliad i darddiad y clefyd.

"Gallai system, tebyg i system MoT ar geir er engraifft, lle mae cwmniau yn gorfod cael tystysgrif i ddangos bod y tyrrau'n cael eu cynnal a'u cadw, eu glanhau, eu diheintio a'u harchwilio," meddai.

"Byddai hynny'n gam ymlaen i rwystro hyn rhag digwydd eto."

Mae 19 o bobl sy'n diodde o glefyd y Llengfilwyr yn rhan o glystyrau o'r haint, ond does dim achosion newydd o'r clefyd wedi bod ers Medi 10.

Mae ardal yr achosion yn 12 km bob ochr i ffordd yr A465 - Ffordd Blaenau'r Cymoedd - rhwng Y Fenni a Llandarcy.



HEFYD
Llengfilwyr: Gormod o oedi?
15 Medi 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Tri wedi marw
14 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: 'Angen mwy o wybodaeth'
14 Medi 10 |  Newyddion
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific