British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Medi 2010, 06:06 GMT 07:06 UK
Talu gyda cherdyn ar Bont Hafren erbyn Cwpan Ryder?

Ail Bont Hafren
Fe agorodd Ail Bont Hafren yn 1996

Mae amheuaeth a fydd modd talu am groesi Pont Hafren gyda chardiau credyd a debyd erbyn pencampwriaeth Cwpan Ryder yng Nghasnewydd ym mis Hydref.

Mae Asiantaeth y Priffyrdd yn dweud eu bod yn "gobeithio" y bydd y ffyrdd newydd o dalu yn eu lle erbyn y digwyddiad a fydd yn dechrau ar Hydref 1.

Ym mis Mehefin rhoddodd Is Ysgrifennydd Seneddol Trafnidiaeth Prydain, Norman Baker, sicrwydd y byddai hynny'n digwydd.

'Trafodaethau'

Ond ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Mae trafodaethau rhwng Asiantaeth y Priffyrdd a'r consesiynydd, Severn River Crossings Plc, i ddatrys y materion ariannol a thechnegol yn ymwneud â chyflwyno cardiau credyd a debyd yn parhau.

"Rydym yn gobeithio y bydd y mater wedi ei ddatrys cyn i Gwpan Ryder ddechrau."

Ar hyn o bryd dim ond gydag arian sychion y mae modd talu am groesi'r bont i Gymru.

'Siom fawr'

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden, wedi mynegi "siom fawr" nad yw'r mater wedi cael ei ddatrys.

"Dylai fod yn gymharol hawdd i'w wneud.

"Mae talu'r doll yn ddrud, yn anghyfleus ac yn anhyblyg," meddai.

"Mae'r ffaith mai dim ond gydag arian y mae modd talu ar hyn o bryd yn cael effaith ar yr ymwelwyr sy'n dod i Gymru am y tro cyntaf.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu harwain yn ôl i'r gwasanaethau traffordd agosaf i gael arian."

Dros y blynyddoedd mae 'na ymgyrchu wedi bod i allu talu gyda cherdyn.

Cwmni preifat sy'n gyfrifol am y pontydd ac fe fydd yn dychwelyd i feddiant y llywodraeth pan mae'r cwmni wedi casglu'r swm penodol o'r tollau.



HEFYD
Galw am fwy o gameru ar bontydd
11 Meh 10 |  Newyddion
Talu toll cherdyn 'yn debygol'
27 Ion 10 |  Newyddion
Cardiau plastig i dalu am dollau?
01 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific