British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Medi 2010, 11:16 GMT 12:16 UK
Cytundeb 15m i gwmni Cymreig

Dehongliad artist o Gwynt Y Mr
Dechreuodd y gwaith ar gynllun Gwynt y Mr ym mis Tachwedd 2009

Mae cwmni RWE npower Renewables wedi dweud eu bod wedi rhoi cytundeb £15 miliwn i gwmni Cymreig.

Gwynt y Môr fydd un o'r ffermydd gwynt mwyaf ger arfordir Prydain a chwmni Prysmian Cables and Systems o Wrecsam sydd wedi cael y cytundeb.

Nhw fydd yn cynhyrchu a gosod ceblau ar hyd yr 11.2 gilomedr o'r traeth i'r cysylltiad â'r Grid Cenedlaethol.

Bydd y fferm wynt ger arfordir Llandudno yn cynhyrchu 576 MW o drydan.

'Arwyddocaol'

Cyfarwyddwr cynllun fferm wynt Gwynt y Môr yw Toby Edmonds.

"Mae hwn yn gytundeb arwyddocaol i ddarparu elfen hanfodol o'r cynllun ac rydym wrth ein bodd yn medru rhoi'r cytundeb i Prysmian.

"Dangosodd y cwmni gymwysterau gwych ac maen nhw'n medru cynhyrchu'r ceblau yn lleol, gan gadw swyddi a buddsoddiad yn yr ardal."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones: "Dwi'n falch fod y cytundeb wedi mynd i gwmni lleol.

"O ystyried yr arbenigedd sydd gennym ni yn y sector, dwi'n hyderus y bydd busnesau lleol eraill yn elwa ar y buddsoddiad hwn."

20 mis

Bydd Prysmian yn dechrau gosod ceblau yn syth ac mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben ymhen 20 mis.

Bydd eu ceblau yn cysylltu â'r cebl o'r môr yn y lanfa ym Mhensarn a'r trydan yn mynd oddi yno i'r is-orsaf newydd yn Llanelwy.

Rheolwr Datblygu cwmni Prysmian yw Emyr Thomas.

"Rydym yn credu bod ein ffatri gynhyrchu yn Wrecsam heb ei hail - gallwn ni ddarparu ceblau o safon uchel am bris cystadleuol."

Tachwedd

Dechreuodd y gwaith ar gynllun Gwynt y Môr - cynllun sy'n werth £2 biliwn - ym mis Tachwedd 2009.

Y rhan gynta oedd yn Llanelwy ar gyfer yr is-orsaf ac aeth y cytundeb i gwmni arall o'r gogledd, y Brodyr Jones.

Gwynt y Môr yw'r cynllun mwyaf o'i fath sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, a pan fydd wedi'i gwblhau bydd yn cyflenwi digon o drydan i gwrdd â galw blynyddol tua 400,000 o gartrefi.



HEFYD
Newid cynllun Gwynt y Mr
07 Awst 07 |  Newyddion
2 biliwn ar gyfer fferm wynt
04 Meh 10 |  Newyddion
Gwynt y Mr: Brwydr ar ben
05 Maw 09 |  Newyddion
Fferm wynt: Galw am ymchwiliad
09 Chwef 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific