British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Medi 2010, 17:52 GMT 18:52 UK
Llengfilwyr: Gormod o oedi?

Clefyd Y Llengfilwyr
Parhau mae'r ymchwiliad i geisio canfod tarddiad yr haint

Mae meddyg teulu wedi mynegi pryder am ymateb yr awdurdodau i Glefyd y Llengfilwyr yng Nghymoedd y De.

Dywedodd Dr Jonathan Richards o Ferthyr Tudful fod yr ymateb wedi bod "yn rhy araf" cyn dweud wrth y cyhoedd am yr achosion.

Mae tri wedi marw o'r haint.

Cyhoeddwyd mai menyw o Rymni oedd y person cyntaf i farw o ganlyniad i'r achosion diweddar o'r clefyd.

Roedd Bev Morgan yn 49 oed.

Dydy'r ddwy farwolaeth arall ddim yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â'r achosion yn ardal Blaenau'r Cymoedd.

Yn y cyfamser mae cyfreithwr dynes sy'n gwella o'r salwch yn dweud fod angen sicrhau fod tyrrau oeri'n cael eu rheoli'n well.

Wythnos i ddydd Mawrth cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn swyddogol fod yna achosion o'r clefyd.

Ond roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud wrth feddygon y dydd Gwener blaenorol, sef pedwar diwrnod ynghynt.

Gwadu

Mae'r corff iechyd yn gwadu bod oedi diangen ac yn mynnu iddyn nhw ymateb pan oedd yn "ymarferol bosib".

Mae clwstwr o 19 o achosion ym Mlaenau'r Cymoedd rhwng Y Fenni a Llandarsi.

Y gred yw bod saith yn gysylltiedig â Rhymni, pedwar â Chwm Cynon ac mae gan yr wyth arall ryw gysylltiad ag ardal y clwstwr.

Ar hyn o bryd mae saith achos unigol arall, sy'n cynnwys dwy farwolaeth, sydd ddim yn gysylltiedig â'r clwstwr o 19.

'Dim digon'

Ddydd Mawrth fe ddywedodd llefarydd iechyd Ceidwadwyr yn y cynulliad, Andrew R T Davies, "nad oedd pobl wedi cael digon o wybodaeth am y clefyd".

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn cysylltu â'r cyfryngau'n ddyddiol i roi diweddariad am y sefyllfa.

Parhau mae'r ymchwiliad i geisio canfod tarddiad yr haint.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi ymweld â 100 o gwmnïau, ac mae yna dyrau oeri wedi cael eu harchwilio a'u diheintio.



HEFYD
Clefyd: 'Angen mwy o wybodaeth'
14 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: Diheintio trydydd tŵr oeri
13 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: Mwy o achosion
11 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd Llengfilwyr: Ail farwolaeth
09 Medi 10 |  Newyddion
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr
07 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific