British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Medi 2010, 18:48 GMT 19:48 UK
Clustfeinio: adolygiad barnwrol?

Chris Bryant
Mae Chris Bryant AS yn un o dri sy'n dwyn achos yn erbyn Heddlu Llundain.

Mae aelod seneddol Y Rhondda yn un o dri ffigwr cyhoeddus i ddechrau camau tuag at adolygiad barnwrol o waith Heddlu Llundain yn yr achos clustfeinio anghyfreithlon.

Dywed y tri - sy'n cynnwys cyn uchel-swyddog gyda Heddlu Llundain, Brian Paddick - na chawson nhw rhybudd gan yr heddlu y gallai fod eu preifatrwydd dan fygythiad.

Mae Chris Bryant AS, Mr Paddick a'r awdur Brendan Montague am weld y llysoedd yn barnu ar sut y deliwyd â'r achos.

Yn 2007, cafodd cyn-olygydd brenhinol y News Of The World, Clive Goodman, ei garcharu am glustfeinio'n anghyfreithlon ar alwadau personol pobl cyhoeddus.

Cafodd y ditectif preifat, Glenn Mulcaire, hefyd ei garcharu am yr un drosedd.

Dau arall?

Brian Paddick
Ymddeolodd Brian Paddick o Heddlu Llundain ym mis Mai 2007

Tamsin Allen yw'r cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r tri sy'n dod â'r achos yn erbyn yr heddlu.

Dywedodd: "Dydy ein cleientau yn dal heb gael gwybod yr holl hanes am sut y daeth eu henwau i fod ar ddogfennau a gipiwyd yn ystod ymchwiliad yn 2006, na pham na chawson nhw rhybudd y gallai eu preifatrwydd fod o dan fygythiad.

"Bydd y llysoedd yn barnu os y torrodd Heddlu Llundain eu cyfrifoldebau o ran cyfraith gyhoeddus a hawliau dynol yn y modd y deliodd â'r ymchwiliad yma a'i oglygiadau."

Ychwanegodd Ms Allen y byddai'n cyhoeddi enwau dau berson arall fydd yn ymuno yn yr achos yn erbyn yr heddlu.

Golygydd Y News Of The World ar y pryd oedd Andy Coulson, ac mae o wedi wynebu honiadau newydd ei fod yn gwybod fod yr arfer o glustfeinio yn gyffredin ymysg ei ohebwyr.

Mae Mr Coulson, sydd bellach yn bennaeth cyfathrebu yn Downing Street, wedi gwadu'r honiadau.



HEFYD
Dadl frys ar gais AS Rhondda
09 Medi 10 |  Newyddion
'Gwrando ar fy ngalwadau ffn'
03 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific