British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Medi 2010, 16:41 GMT 17:41 UK
Canfod arfwisg Rhufeinig

Maes Y Priordy, Caerllion
Canfuwyd yr arfwisg wrth gloddio ar safle Maes Y Priordy, Caerllion

Mae archaeolegwyr mewn cloddfa yn ne Cymru wedi dod o hyd i arfwisg Rufeinig a rhai arfau.

Fe wnaethon nhw'r darganfyddiad yn y gloddfa ger Caerllion - un o safleoedd Rhufeinig enwoca Prydain.

Dywedodd arweinydd y cloddio, Dr Peter Guest o Brifysgol Caerdydd mai hon oedd y trydydd neu bedwerydd arfwisg erioed i gael ei darganfod yn y Deyrnas Unedig, a'r cynta yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae'n eithriadol o bwysig i astudio Prydain o dan y Rhufeiniaid."

'Proses hir ac araf'

Eglurodd Dr Guest, sy'n uwch ddarlithydd mewn archaeoleg Rufeinig yn Ysgol Hanes Prifysgol Caerdydd, fod nifer o eitemau wedi eu gweld wythnos yn ôl ar lawr mewn warws ar safle Maes Y Priordy.

"Fe fuon ni'n gweithio ar y safle yn y warws am 6 diwrnod," meddai.

"Bu'n broses hir ac araf o gloddio gofalus, ond rydyn ni yna o'r diwedd."

Cafodd yr arfwisg ei darganfod yn ymyl nifer o ddarnau arwyddocaol o gopr ac efudd.

Ychwanegodd Dr Guest: "Mae'r arfwisg mewn cyflwr rhyfeddol o dda o ystyried ei bod wedi ei gwneud o haearn sydd ddim yn goroesi'n dda iawn mewn tir gwlyb ac oer fel sydd yma yng Nghymru.

"Mae wedi troi'n rhwd, ond wedi cadw'i amlinell.

"Fe fydd hi'n broses hir a thringar o gloddio gofalus dros gyfnod o flwyddyn neu ddwy nawr i gael gwybod beth arall yn union sydd ar y safle."

Mae Caerllion (Isca) yn dyddio yn ôl i'r flwyddyn 75 O.C., ac yn un o dri safle parhaol i lengfilwyr yn y DU.



HEFYD
Sgerbwd Blodwen, 5,500 oed, adre
05 Gorff 10 |  Newyddion
Canfod caead cwpan cymun
03 Maw 10 |  Newyddion
Ceiniogau 700 oed mewn cae
10 Tach 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific