British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Medi 2010, 15:05 GMT 16:05 UK
Dim cyhuddiad wedi marwolaeth gweithiwr

Dyfed Steels
Ffatri Dyfed Steels yn Llanelli

Dywed heddlu na fydd cyhuddiadau troseddol yn dilyn marwolaeth dyn 40 oed mewn ffatri ddur yn Llanelli.

Cafodd Pawel Pagos, o wlad Pwyl, anafiadau angheuol yn ffatri Dyfed Steels ar Barc Diwydiannol Dafen ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cwblhau ymchwiliad i'r digwyddiad, ac nad oedden nhw wedi canfod unrhyw drosedd.

Ychwanegodd yr heddlu fod yr ymchwiliad wedi ei basio i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Credir fod Mr Pagos, oedd wedi gweithio fel gosodwr lorïau trwm gyda'r cwmni am bum mlynedd, wedi cael ei ddal yn sownd gan lori.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Gary Phillips: "Mae ein rhan ni o'r ymchwiliad nawr ar ben.

"Naethon ni ddim canfod bod unrhyw drosedd wedi digwydd, felly mae'r cyfrifoldeb am yr ymchwiliad ar y cyd yn pasio i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch."



HEFYD
Ymchwilio i farwolaeth dyn
02 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific