British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Medi 2010, 07:09 GMT 08:09 UK
Clefyd: Diheintio trydydd tŵr oeri

Clefyd y Llengfilwyr
Mae'r symptomau cychwynnol yn debyg i rai ffliw cyn bod problemau anadlu'n datblygu

Ym Mlaenau'r cymoedd mae trydydd tŵr oeri wedi cael ei gau rhag ofn wrth i swyddogion iechyd barhau i ymchwilio i achosion o glefyd y llengfilwyr.

Mae'r tŵr yng Nghwm Rhymni ac mae'r cwmni sy'n gyfrifol wedi cytuno i gau'r safle dros dro er mwyn ei ddiheintio.

Mae'n dilyn cau dau dŵr arall er mwyn eu diheintio. Eisoes mae dau berson wedi marw mewn achosion sydd, mwy na thebyg, yn gysylltiedig gyda'r achosion o Glefyd y Llengfilwyr yn yr ardal.

Dywed swyddogion iechyd fod yna gysylltiad rhwng 19 o achosion o'r haint ac mae yna bosibilrwydd fod pedwar achos arall, yn gysylltiedig â'r clwstwr hwnnw.

Mae swyddogion iechyd a diogelwch wedi bod yn archwilio nifer fawr o safleoedd.

Dim cadarnhad

Fe all tyrau oeri ledu'r clefyd.

Er bod y tŵr yng Nghwm Rhymni wedi ei gau a'i ddiheintio dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw hynny o reidrwydd yn golygu mai dyma'r tarddiad.

Nos Wener cyhoeddwyd fod tŵr oeri arall, yn Nowlais ger Merthyr Tudful wedi ei gau, a digwyddodd yr un peth i dŵr arall ym Mlaenau Gwent.

Cafodd safle Merthyr ei ailagor ar ôl cael ei lanhau'n drylwyr.

Yn yr achosion hynny hefyd doedd dim cadarnhad mai'r safleoedd oedd tarddiad y clefyd.

Mae'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ardaloedd Blaenau Gwent, Merthyr a Chwm Rhymni.

Bu farw dau o bobl o ganlyniad i'r clefyd, dyn 70 oed ar Fedi 8 a dynes 64 oed o Bontypridd ar Fedi 6.

Dyw'r ddau a fu farw ddim yn rhan o'r prif glwstwr.

Dylai unrhyw un sy'n poeni gysylltu â meddyg teulu.

Anadlu

Mae'r Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi dweud: "Mae'r clefyd yn brin ond yn peryglu bywyd.

"Fel arfer, mae'r achosion yn ynysig ond mae cyfres o achosion yn gallu digwydd.

"Mae pobl yn cael eu heintio wrth anadlu bacteria sy ar ffurf diferion o ffynhonnell ddŵr wedi ei heintio.

"All y clefyd ddim cael ei drosglwyddo o berson i berson."

Mae'r symptomau cychwynnol yn debyg i rai ffliw cyn bod problemau anadlu'n datblygu.



HEFYD
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr
07 Medi 10 |  Newyddion
Claf yn 'ddifrifol iawn'
26 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific