Mae'r tafarndai a'r siopau wedi cau
|
Mae pentre â chysylltiad â hen draddodiadau a sgiliau meddygol wedi dechrau gwerthu cynnyrch perlysiau. Roedd Meddygon Myddfai yn enwog ym Mhrydain a thu hwnt am wella cleifion gyda pherlysiau. Mae'r pentrefwyr ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin wedi cael mwy na £400,000 o arian Loteri ar gyfer y cynllun sy'n rhan o brosiect i adfywio'r ardal. Roedd Myddfai yn un o bum pentre ym Mhrydain i lwyddo yng nghyfres Village SOS y BBC oedd yn gosod her i gymunedau lunio syniadau ar gyfer busnesau. Nod y fenter yw hybu'r ardal fel lle ar gyfer gwyliau 'i wella'r ysbryd a'r corff' Cyfarwyddiadau Roedd y cofnod cynta am Meddygon Myddfai yn y drydedd ganrif ar ddeg pan oedd Rhiwallon Feddyg a'i feibion Cadwgan, Gruffudd ac Einion, yn feddygon i Rhys Gryg, Tywysog Deheubarth. Parhaodd y llinach hyd 1739 pan fu farw'r ola ohonyn nhw, John Jones. Mae eu cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi meddyginiaethau llysieuol yn Llyfr Coch Hergest, yn dyddio o ran olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn y cynllun diweddara mae'r cynnyrch yn cynnwys te perlysiau, sebonau a cholur wedi ei seilio ar berlysiau. Eitemau eraill sy'n cael eu gwerthu ar y we yw offer cegin a chrefftau. Y flwyddyn nesa mae bwriad i ailgodi neuadd y pentre a'i ddefnyddio fel canolfan ymwelwyr yn ogystal â chanolfan i bobl leol. Bydd elw'r yn cael ei roi i'r gymuned. Dirywio Dywedodd Jo Gideon, un o'r pentrefwyr, fod Myddfai wedi dirywio dros y degawdau am fod nifer o bobl ifanc yn gadael i chwilio am waith. "Ers talwm roedd yna dair tafarn, dwy siop, swyddfa post, gof a lladd-dŷ," meddai. Y gobaith yw yw y bydd y fenter 'Gwnaed ym Myddfai' yn rhoi hwb i'r ardal. "Mae'r lle hwn yn llawn hanes a thraddodiad, ac roedd enw Myddfai yn enwog yn Ewrop oherwydd y traddodiad meddygol. "Roedd pobl yn teithio o bell ac agos yma yn y gobaith o gael gwella. "Mae prosiect heddiw yn gobeithio elwa ar enw Myddfai a bydd yr holl elw yn cael ei roi'n ôl i'r gymuned. "
|