British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Medi 2010, 13:55 GMT 14:55 UK
Trafod pryderon am gwmni sment

Hanson Cement
Ffatri cwmni Hanson Cement yn Padeswood

Mae ail gyfarfod rhwng arbenigwyr iechyd cyhoeddus a chynrychiolwyr y gymuned yn trafod pryderon am ffatri sment Hanson yn Sir y Fflint.

Cynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Asiantaeth Gwarchod Iechyd, Asiantaeth Yr Amgylchedd, Asiantaeth Safonau Bwyd a Chyngor Sir y Fflint sy'n trafod y ffatri ym mhentre Padeswood ger Yr Wyddgrug.

Un item ar yr agenda yw diweddariad am yr asesiad risg amgylcheddol ynghyd â'r gwaith sydd wedi ei ddechrau ar y safle.

Mae'r asesiad yn edrych yn fanwl ar gemegau sy'n cael eu defnyddio yn y ffatri, lefelau cyfreithlon allyriadau, a'r data monitro presennol.

Yn y cyfamser, mae adolygu graddfeydd canser yr ardal, ac asesiad o glystyrau canfyddedig o'r clefyd wedi dechrau.

'Yn fanwl'

Dywedodd Andrew Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Dyma'r ail gyfle i gwrdd â'r arbenigwyr sy'n cynnal yr ymchwiliad er mwyn dysgu pa waith sydd eisoes wedi'i wneud.

"Mae'r cyfarfod hefyd yn gyfle i'r tîm ymchwilio siarad â'r gymuned leol er mwyn iddyn nhw ddeall beth sy'n cael ei wneud fel ymateb i'w pryderon.

"Ond mae'r gwaith sy'n cael ei wneud eisoes yn fanwl iawn a does dim modd brysio."

44

Hyd yma, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn 44 o sylwadau am gwmni Hanson Cement gan drigolion lleol.

Mae'r mwyafrif yn mynegi pryderon am iechyd cyhoeddus a materion amgylcheddol.

Trafodwyd y mwyafrif o'r sylwadau yn y cyfarfod cyntaf ar Fehefin 15 eleni.

Mae cyfle i bobl o hyd e-bostio sylwadau am y cwmni at general.enquiries@wales.nhs.uk y Gwasanaeth Iechyd ac fe fydd cyfarfodydd â chynrychiolwyr y gymuned yn rhoi gwybod am waith yr ymchwiliad.



HEFYD
Gweinidog: 'Angen ymchwiliad'
14 Mai 10 |  Newyddion
250,000 o ddirwy i gwmni
18 Chwef 10 |  Newyddion
Cwmni sment yn 'peryglu iechyd'
21 Ion 10 |  Newyddion
Pentre 'dan gwmwl o lwch'
09 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific