British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Medi 2010, 11:07 GMT 12:07 UK
Dadl frys ar gais AS Rhondda

Chris Bryant AS

Bydd dadl frys yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau wedi galwad gan Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant.

Dadl fydd hi am glustfeinio anghyfreithlon o alwadau ffôn.

Mae Mr Bryant yn credu fod newyddiadurwyr wedi bod yn gwrando ar ei alwadau ffôn.

Daw'r cyfan wedi i bapur y News Of The World wahardd newyddiadurwr o'i swydd yn dilyn honiadau ei fod wedi clustfeinio ar alwadau ffigwr cyhoeddus.

Adolygiad

Mae'r cyn ddirprwy brif weinidog, John Prescott, wedi dweud y bydd yn galw am adolygiad barnwrol os na fydd Heddlu Llundain yn dweud os mai ei ffôn ef oedd yr un dal sylw ai peidio.

Mae cyn-olygydd y papur, Andy Coulson, bellach yn bennaeth cyfathrebu i'r prif weinidog David Cameron.

Ymddiswyddodd o'r News Of The World yn dilyn carcharu aelod o staff y papur yn 2009.



HEFYD
'Gwrando ar fy ngalwadau ffn'
03 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific