British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Medi 2010, 12:47 GMT 13:47 UK
John Toshack yn gadael ei swydd fel rheolwr Cymru

John Toshack

Mae John Toshack wedi gadel ei swydd fel Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru.

Bydd yn gadael y swydd yn syth ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.

Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wneud cyhoeddiad am ei olynydd yn ddiweddarach.

Fydd e ddim wrth y llyw ar gyfer y ddwy gêm rownd ragbrofol Ewro 2012 ym mis Hydref, gartref yn erbyn Bwlgaria a thramor yn Y Swistir.

Mae'r cyn-bêldroediwr 61 oed wedi bod o dan bwysau ar ôl i Gymru golli eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Montenegro yr wythnos diwethaf o 1-0.

Dyma oedd ail gyfnod Toshack i reoli Cymru.

Fe ddechreuodd ail gyfnod cyn-reolwr Real Madrid gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2005.

Cliciwch yma i ddarllen mwy




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific