Masnachu pobl yw'r trydydd farchnad mwyaf proffidiol i droseddwyr
|
Bydd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, yn cyhoeddi manylion creu swydd newydd fel cydlynydd cyntaf Cymru i atal masnachu pobl. Ym mis Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Y Cynulliad strategaeth 'Hawl I Ddiogelwch' oedd yn amlinellu cefnogaeth i'r rhai sy'n diodde oherwydd masnachu pobl. Bellach, masnachu pobl yw'r farchnad trydydd mwyaf proffidiol i droseddwyr yn y Deyrnas Unedig y tu ôl i gyffuriau ac arfau. Gan fod masnachu menywod a phlant yng Nghymru yn fasnach gudd ar y cyfan, does dim modd gwybod union faint y broblem, er bod gwybodaeth gyfrin yr heddlu yn awgrymu ei fod yn cynyddu. 'Ffiaidd' Mewn adroddiad a baratowyd gan Grŵp Gweithredu Aml Bleidiol, nodwyd yr angen am gydlynydd i ddod â gwaith asiantaethau cyhoeddus sy'n ceisio atal y drosedd yma, a chynnig cefnogaeth i ddioddefwyr, at ei gilydd. Bydd y cydlynydd hefyd yn trefnu hyfforddiant i bobl broffesiynol ar sut i adnabod achosion o fasnachu pobl, a sut i ymyrryd. "Mae masnachu menywod a phlant i'r diwydiant rhyw yn ymarfer ffiaidd, ond yn aml yn drosedd guddiedig," meddai Mr Sargeant. "Dyw awdurdodau yn aml ddim yn gallu dirnad maint y broblem, a dyw dioddefwyr ddim yn gwybod lle i gael help. "Rydw i wedi datgan fy ymrwymiad i daclo pob math o drais yn erbyn merched. "Dyna pam yr ydwyf yn ariannu'r swydd newydd yma a fydd yn codi ymwybyddiaeth o broblem masnachu pobl, dod â mwy o droseddwyr gerbron y llysoedd ac yn gwella'r ymateb y mae dioddefwyr yn ei gael."
|