British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Medi 2010, 19:06 GMT 20:06 UK
Archwiliadau post mortem yn dod i ben

Ysbyty Bronglais
Bronglais: Tua 200 o archwiliadau post mortem bob blwyddyn

Fydd 'na ddim archwiliadau post mortem yn unig ysbyty cyffredinol y canolbarth o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddai'r gwasanaeth yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn dod i ben ac y byddai gwasanaeth newydd yn Ysbyty Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.

Mae trefnydd angladdau wedi dweud y gallai hyn achosi oedi i angladdau.

Dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd symud y gwasanaeth yn fesur arbed arian ac na fyddai unrhyw oedi.

Ym mis Awst gwadodd y bwrdd eu bod am newid statws yr ysbyty ar ôl i adroddiad am golli rhai gwasanaethau gael ei ollwng i'r cyfryngau.

Roedden wedi dweud mai hen adroddiad oedd hwn.

Dim israddio

Yn sgil y datblygiad am archwiliadau post mortem, dywedodd y bwrdd iechyd nad oedden nhw'n israddio Ysbyty Bronglais.

Ychwanegodd llefarydd nad oedd swyddogion wedi derbyn cwynion oddi wrth Grwner Ceredigion am oedi i angladdau.

Bob blwyddyn mae tua 200 o archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ym Mronglais, yn ôl y bwrdd.

Dwi ddim yn meddwl bod y sefyllfa yn addas ar gyfer teuluoedd mewn galar
Trefor Evans, trefnydd angladdau

"Fe fydd marwdy newydd yn cael ei ddatblygu yn Ysbyty Gorllewin Cymru fydd yn gallu cynnig gwasanaeth i Grwner Ceredigion yn fuan yn 2011," meddai llefarydd.

"Gall y bwrdd iechyd sicrhau'r gymuned yng Ngheredigion na fydd 'na oedi sylweddol i'r amser mae archwiliadau yn cael eu gwneud.

"Bydd modd i deuluoedd weld cyrff anwyliaid mewn lleoliad parchus o hyd yn Ysbyty Bronglais."

Dywedodd mai'r crwner oedd yn gofyn am y rhan fwya o archwiliadau ac mai fe fyddai'n penderfynu'r lleoliad.

"Ar hyn o bryd mae archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal yn Ysbyty Bronglais ddeuddydd yr wythnos ac mae'r nifer wedi bod yn weddol gyson dros y tair blynedd ddiwethaf ...

"... mae'r mwyafrif o archwiliadau yn cael eu cynnal o fewn dau neu dri diwrnod."

'Ddim yn addas'

Dywedodd Trefor Evans, trefydd angladdau yn Aberystwyth: "Dwi ddim yn meddwl bod y sefyllfa yn addas ar gyfer teuluoedd mewn galar.

"Maen nhw wedi arfer cael archwiliadau yn Aberystwyth heb oedi.

"Roedd teuluoedd yn gallu cael gafael ar drefnydd angladdau o'u dewis a dechrau gwneud trefniadau - allan nhw ddim gwneud hynny nawr."

Ac roedd llai o archwiliadau eisoes, meddai, ym Mronglais wrth i'r crwner, Peter Brunton, anfon rhai achosion i'r Amwythig.

Fe ofynnwyd am sylw Mr Brunton.



HEFYD
Ehangu cynllun i wella ysbyty
17 Awst 10 |  Newyddion
Ysbyty: Cynlluniau gwerth £31m
06 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific