British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Medi 2010, 12:24 GMT 13:24 UK
Dyfarnwr: Help llaw i'r Samariaid

  Nigel Owens
Nigel Owens - yn helpu'r ymgyrch

Mae un o ddyfarnwyr gorau rygbi yn helpu ymgyrch y Samariaid i leihau nifer y dynion sy'n lladd eu hunain.

Wrth lansio'r ymgyrch ddydd Iau bydd Nigel Owens yn sôn am ei gyfnod o iselder pan geisiodd ladd ei hunan 13 o flynyddoedd yn ôl.

Mae dynion yng Nghymru dairgwaith yn fwy tebygol na menywod o ladd eu hunain, meddai'r elusen.

Dywedodd Nigel, 39 oed o Bontyberem, fod ei iselder wedi dechrau oherwydd nad oedd yn hoffi ei hun.

"Ro'dd 'na ormod o gywilydd 'da fi siarad ag unrhyw un.

"Cynyddodd y teimlade ac yh y pen draw o'n i'n ffaelu gweld bod rheswm i fyw ragor a dyna pam wnes i drial lladd fy hunan."

Dosbarth gweithiol

Ar gyfartaledd mae 220 o hunanladdiadau gwrywaidd yng Nghymru bob blwyddyn.

Nod ymgyrch Dynion ar y Rhaffau yw perswadio dynion i drafod eu problemau ac ystyried ffonio llinell gymorth y Samariaid.

Mae'n targedu dynion o gefndir dosbarth gweithiol yn eu tridegau, pedwardegau a phumdegau, y rhai mwya tebygol o ladd eu hunain.

Dywedodd Network Rail eu bod yn cefnogi'r ymgyrch - gan fod nifer o farwolaethau ar y rheilffyrdd.

Mae Nigel wedi dweud ei fod yn diodde o iselder oherwydd bwlimia a'i fod yn gaeth i steroids pan gymerodd orddos o dabledi cysgu.

Dwi'n meddwl hyn - 'sen i wedi siarad, fydden i ddim wedi trial lladd fy hunan
Nigel Owens

"Wrth edrych yn ôl, ro'dd 'na bobol y bydden i wedi gallu siarad â nhw, y dylen i fod wedi siarad â nhw.

"Dwi'n meddwl hyn - 'sen i wedi siarad, fydden i ddim wedi trial

"Mae'n anodd dod o hyd i'r geirie i ddiolch am y ffaith 'mod i ar y ddaear o hyd.

"Dyna pam bod yr ymgyrch mor bwysig.

"All hi wneud dynion yn ymwybodol fod help ar ga'l ..."

Yn ôl gwaith ymchwil ar ran y Samariaid, doedd y rhan fwya o ddynion yn yr oedran dan sylw ddim yn trafod emosiynau oherwydd eu bod yn ofni ymddangos yn bobl "wan".

Y rhif ffôn ar gael ddydd a nos yw 08457 90 90 90



HEFYD
Samariaid ar y we
22 Mai 00 |  Newyddion
Hunanladdiad: Annog pobl i siarad
02 Tach 09 |  Newyddion
Llinell gymorth yn Gymraeg
25 Ion 10 |  Newyddion
Hunanladdiad: 'Her newydd'
10 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific